Trasiedi Ac Adwaith-Plaid a Gwlad Ar Brawf ?

ROEDD marwolaeth drasig Carl Sargeant yr wythnos hon yn un o'r digwyddiadau mwyaf sobreiddiol yn hanes diweddar Cymru. Ond er mor dywyll ac erchyll oedd yr hanes, tybed hefyd nad oedd y drasiedi hon yn un o'r digwyddiadau trawsffurfiannol hynny sy'n aml yn gallu diffinio cenedl a hyd yn oed newid trywydd y genedl honno.

Dydi hi ddim yn ormodiaith i ddweud fod llawer iawn o bobl yma yng Nghymru -y tu hwnt i'r byd gwleidyddol arferol- mewn galar, sioc a dychryn wedi clywed am hunan-laddiad Aelod Cynulliad Glannau Dyfrdwy ddydd Mawrth diwethaf.

Er gwaetha'r trai mawr o ran ymlyniad ffurfiol i'r traddodiad crefyddol Cymreig dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru'n parhau'n wlad sy'n rhoi pwys mawr ar fywyd ac ar urddas dynol, ac mi roedd clywed am farwolaeth Carl Sargeant yn dolc go egr i'n synnwyr cenedlaethol o'n gwerthoedd sylfaenol ni fel gwlad.

Pan ddeallwyd wedyn bod ein Prif Weinidog am ymateb yn gyhoeddus am y tro cyntaf i farwolaeth ei gyd-aelod Llafur mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn Iau, y gobaith oedd y gallai rhywsut neu'i gilydd lwyddo i gyfleu teimladau pawb ohonom wedi'r newyddd erchyll a thor-calonnus hwnnw a dorrodd fore Mawrth.

Ond gwaetha'r modd, perfformiad cwbl ddi-enaid ac oeraidd a gafwyd gan Carwyn Jones, megis fel cyfreithiwr dan bwysau mewn llys , a'r teimlad cyffredinol yn sgil ei ymddangosiad swta o flaen y camerau oedd na wnaed unrhyw gyfiawnder gyda holl bathos a thristwch y sefyllfa dan sylw.

Gellid dadlau mai marwolaeth Carl Sargeant o dan y ffasiwn amgylchiadau fu'r digwyddiad mwyaf ysgytwol yn holl hanes datganoli yng Nghymru ers 1999 a'r un a ennynodd y mwyaf o sylw cyhoeddus i Gynulliad Cymru ers ei greu.

Bu'r Blaid Lafur yn rheoli pethau'n ddi-dor yma o'r cychwyn cyntaf wrth gwrs, ac un elfen hynod ffortunus i'r blaid  dros y cyfnod hwn fu'r diffyg craffu cenedlaethol arni a'i pherfformiad ar hyd y blynyddoedd hynny.Boed hynny oherwydd diffyg gwasg genedlaethol gwerth son amdani, gwendid y pleidiau eraill neu ddifaterwch cyffredinol y Cymry- mae'r Blaid Lafur wedi cael rhwydd hynt i wneud fel fyd a fynna hi yma i bob pwrpas.

A'r realiti creulon ydi bod y tra-arglwyddiaeth hwn dros fywyd Cymru a'r trahauster sydd wedi tyfu law yn llaw gyda hynny dros y blynyddoedd wedi'i amlygu'i hun yn ei holl hylltra yn ystod hanes trist yr wythnos hon.

 A gafwyd enghraifft mwy graffig erioed o'r "dis-connect" llwyr hwn sy'n bodoli rhwng ein pleidiau gwleidyddol heddiw a'r bobol gyffredin y maen nhw'n honni eu cynrychioli o ystyried sut yr aeth y Blaid Lafur ati i ddisgyblu a chosbi Carl Sargeant a chymharu hynny gyda sut y byddai'r rhan fwyaf o bobl normal yn ein cymdeithas, y tu hwnt i'r bybl gwleidyddol, wedi ceisio mynd o'i chwmpas hi?

Rydym wedi hen arfer clywed geiriau mwys Llafur Cymru am gyfiawnder, tegwch a chwarae teg a'i phwyslais cyson ar ei rhagoriaeth foesol dros y Toriaid brwnt, di-deimlad a di-egwyddor hynny. Mae'r dacteg hynod syml hon wedi talu ar ei ganfed iddyn nhw mewn un etholiad ar ol y llall yng Nghymru ar hyd yr holl flynyddoedd.

Ond mae rhywun yn synhwyro rhywsut bod llygaid a chlustiau pobl Cymru wedi eu hagor mewn modd na welwyd erioed o'r blaen yn dilyn digwyddiadau'r wythnos a aeth heibio a bod rhagoriaeth foesol dybiedig y Blaid Lafur bellach yn deilchion.

Mae'r drasedi ddynol hon a ddigwyddodd o dan oruchwyliaeth y Blaid Lafur yn dangos yn ddigon clir mai ei buddiannau hi ei hun sydd wastad yn dod gyntaf uwchlaw unrhyw beth arall ganddi.

Gwyddom ers blynyddoedd wrth gwrs fod buddiannau'r Blaid Lafur wastad wedi'u gosod uwchlaw buddiannau Cymru fel gwlad. Ond mae'n ymddangos bellach fod budddiannau'r Blaid Lafur yn bwysicach na lles unigolion hefyd- hyd yn oed os yw'r unigolyn dan sylw wedi rhoi oes o wasanaeth i'r blaid honno.

Mae'n debyg fod Carwyn Jones wedi cael neges gan HQ y Blaid Lafur( yn Llundain wrth gwrs) bod rhaid iddo ymddangos yn "arweinyddol" a chadarn yn wyneb yr holl ensyniadau a chyhuddiadau am aflonyddu rhywiol sydd wedi cael cymaint o sylw yn y wasg yn ddiweddar. Roedd rhaid i Lafur ymddangos yn gryf i'w gwahaniaethu nhw rhag y Toriaid a'u helbulon hwy gyda'r cyfryw faterion hyn.

A phan fu rhaid iddo ymddwyn felly pan ddatgelwyd yr adroddiadau gan dair merch di-enw am y sylw amhriodol honedig a roddwyd iddynt gan Carl Sargeant, dyna'n union a ddigwyddodd. Sylw amhriodol noder nad oedd yn ddigon difrifol i'w gyfeirio at yr Heddlu.

Does dim angen bod yn anorak gwleidyddol o gwbl i weld bod y modd y deliwyd gyda'r achos gan Carwyn Jones a pheirianwaith y Blaid Lafur y penwythnos diwethaf yn sylfaenol anghyfiawn ac annheg.

Ymddengys o'r hyn a ddywed cyfeillion agos Carl Sargeant ei fod o'n gallu bod yn fregus yn feddyliol a bod y ffaith hon yn wir yn hollol wybydddus i uchel swyddogion y Blaid Lafur yng Nghymru.

Fel un sydd wedi profi iselder a phryder fy hun yn y gorffennol, gallaf ddeall yn iawn sut y gallai ymateb oeraidd a chlinigol gan gyflogwr wrth ddelio gyda phroblem yn y byd gwaith chwarae ar feddwl rhywun bregus o dan rhai amgylchiadau.

 O'r holl gamgymeriadau elfennol a wnaed wrth ddelio gyda'r achos dan sylw- yr amharodrwydd hwn i estyn unrhyw ofal bugeiliol i ddyn bregus yn ystod penwythnos tywyllaf ei fywyd, a'i yrfa gyhoeddus yn chwilfriw wrth ei draed, oedd y gwaethaf o bell ffordd.

Halen ar y briw wedyn oedd y ffaith fod ei gyfreithiwr wedi gorfod ysgrifennu at y Blaid Lafur dros y penwythnos yn crefu am fwy o fanylion ynghylch y cam-ymddwyn tybiedig gan rybuddio am gyflwr meddwl eu cleient- dim ond i wynebu wal di-dostur o fiwrocratiaeth bleidiol.

Hyd ei farwolaeth fore Mawrth, doedd Carl Sargeant ddim yn gwybod beth oedd yr union gyhuddiadau yn ei erbyn. Er fod ei enw wedi'i daenu ar draws y cyfryngau a'i euogrwydd honedig yn wybodaeth gyhoeddus i'r byd a'i nain.

Mae'n hawdd gweld sut y gallai'r ffasiwn waradwydd cyhoeddus effeithio ar ddyn, oedd fel un o''r ychydig gynrychiolwyr dosbarth gweithiol yn y Senedd, mor ymwybodol a balch o'i rol yn cynrychioli ei gymuned enedigol yng Nghei Conna.

Heb son am y synnwyr fod ei blaid ei hun wedi ei daflu i'r bleiddiaid i bob pwrpas trwy wrthod unrhyw wybodaeth ystyrlon  na chymorth bugeiliol iddo yn y dyddiau du hynny wedi iddo gael ei wahardd o'i blaid a'i ddiswyddo ar yr un gwynt..

Mae'n debyg bod Carwyn Jones wedi cytuno bellach i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiad a'i ran ef ei hun yn ystod y broses. Mae hynny'n sicr yn gam ymlaen.

Ond gall dyn ddim na llai na teimlo bod mwy nag hygrededd y Blaid Lafur yng Nghymru yn y fantol fan hyn. Mae'r Senedd ei hun, a'i hymarferion gwaith o dan y chwyddwydr hefyd. Ymhellach, gellid dadlau fod Cymru hithau a'i diwylliant gwleidyddol o dan y chwyddwydr yn dilyn yr holl helynt.

Beth bynnag fydd dyfarniad unrhyw ymchwiliad swyddogol- efallai fod angen i bobl Cymru fynnu yn eu ffordd eu hunain nad yw trin unigolion yn y modd y cafodd Carl Sargeant ei drin yn dderbyniol yn ein gwlad mwyach.

Falle bod angen ymgyrch dorfol i geisio sicrhau gwell cyfiawnder a thegwch i unigolion sy'n darganfod eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg i hyn yn y dyfodol.

Mae'r rhyfel gwallgof hwn rhwng y rhywiau sydd ar garlam bellach a'r cyhuddiadau a'r gwrth-gyhuddiadau sy'n codi o ymwneud dynion a merched  gyda'i gilydd yn y man gwaith yn brysur mynd yn bla yn ein cymdeithas.

 Mae yna angen cynyddol i sefydlu canllawiau cadarn a thryloyw ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn i'r dyfodol, a thybed yn wir allai Cymru arwain y ffordd gyda hyn er cof am Carl Sargeant.

Go brin y byddai'n ymarferol yn ein diwylliant newyddion 24 awr i beidio ag enwi unigolion o gwbl pan gyfyd digwyddiadau fel hyn yn y man gwaith. 

Ond efallai y gellid sefydlu trefn ble bo rhaid i unrhyw gyhuddwr/cyhuddwraig mewn achosion fel hyn dderbyn y byddent hwy yn cael eu henwi yn union yr un modd ag y byddai'r cyhuddiedig yn cael ei enwi. Ac y byddai natur unrhyw gyhuddiadau yn cael eu gwneud yn hysbys i'r cyhuddiedig mor fuan ag sy'n bosib.

Byddai hynny o leiaf yn sicrhau tryloywder a chyfartaledd o'r cychwn i'r ddwy ochr fel ei gilydd.Gan sicrhau hefyd gobeithio mai dim ond achosion difrifol a fyddai wedyn yn cael eu dwyn gerbron.

Siawns hefyd y dylid ceisio canllawiau sy'n caniatau i gwynion o'r math gael eu trin mor ddiymdroi ag sy'n bosib, gan osgoi sefyllfaoedd ble fo pobl yn cael eu gwahardd o'u gwaith a  gorfod cicio'u sodlau am wythnosau neu fisoedd yn disgwyl am ddyfarniad.

Pe bai modd cyflwyno newidiadau megis yr uchod yma yng Nghymru, efallai y gwelid rhyw ddaioni'n deillio o un o'r straeon tristaf i ddigwydd yn ein gwlad ers tro byd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Brexit Cyntaf a William Salesbury- Ffydd Mewn Iaith

MAE'N anodd osgoi'r term Brexit y dyddiau hyn. Mae'n fater sydd yn llwyr ddomiwnyddu'r gofod gwleidyddol ac economaidd presennol ac yn debyg o wneud hynny am beth amser i ddod. 

Beth bynnag eich barn am y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd, byddai'r rhan fwyaf yn cytuno mai dyma'r her fwyaf i wynebu Gwledydd Prydain ers diwedd yr ail ryfel byd yn 1945. 

Mae ambell sylwebydd wedyn yn awgrymu bod rhaid mynd yn ol i 1776 i ddarganfod daeargryn gwleidyddol cymharol- pan enillodd America ei rhyddid oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig a'r Ymerodraeth honno wedyn yn colli 30% o'i masnach y flwyddyn ganlynol fel canlyniad i hynny.

Ond tybed yn wir a ellid edrych yn ol ymhellach fyth mewn hanes ar ddigwyddiad cymharol arall sef penderfyniad Harri'r VIII i dorri'r cysylltiad gyda'r Eglwys Babyddol a Rhufain a sefydlu ei hun fel Pen Goruchaf Eglwys Loegr yn 1534. Dyma oedd y Brexit Cyntaf i bob pwrpas.

Yr hyn a gofiwn ni yng Nghymru am y Brexit arbennig hwn yn fwy na dim ydi ei fod wedi arwain mewn llai na dwy flynedd at gyflwyno'r Ddeddf Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a'r cymal enwog hwnnw am y  bwriad i "extirpate"( dileu) yr Iaith Gymraeg yn llwyr. 

Ond eto, arweiniodd y Brexit cyntaf hwn hefyd at sefyllfa a fyddai'n gwyrdroi'r cymal hwnnw mewn modd dramatig mewn llai na chenhedlaeth- a hynny'n bennaf oherwydd gweledigaeth a phenderfyniad di-ildio un gwr arbennig sef William Salesbury o Lansannan.

Ddydd Mawrth nesaf, Hydref 31ain- mi fydd hi'n Ddiwrnod Diwygiad Ewrop: sef diwrnod i ddathlu 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestanaidd a daniwyd gan weithred enwog Martin Luther wrth iddo gyhoeddi ei 95 thesis yn erbyn llygrediaeth Yr Eglwys Babyddol yn 1517.

Ac wrth gofio cynhysgaeth gyfoethog Martin Luther ar gyfandir Ewrop, mae'n briodol iawn inni gofio hefyd am ein Martin Luther ni'n hunain yma yng Nghymru- William Salesbury a'i rol allweddol wrth gyflwyno syniadau'r Diwygiad Protestanaidd i'n gwlad.

Gwr a fanteisiodd ar y Brexit cyntaf a'r holl ansicrwydd gwleidyddol a chrefyddol a ddaeth yn sgil hwnnw er mwyn cyflawni breuddwyd fawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg ar gyfer pobl Cymru. Roedd hynny yn ei dro wrth gwrs yn fodd i ddiogelu'r iaith am ganrifoedd i ddod.

Roedd William Salesbury yn ddyneiddiwr o fri ac yn bolymath ieithyddol oedd yn gallu siarad wyth iaith sef Cymraeg, Saesneg, Lladin,Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Groeg ac Hebraeg. Datbygodd yrfa ddisglair iddo'i hun yn Llundain fel cyfreithiwr gan gyrraedd swydd Dirprwy Dwrnai Cyffredinol yng Nghymru. 

Ond er holl ei gyflawniadau proffesiynol, cenhadaeth ysol Salesbury oedd cyflwyno'r Ffydd Brotestanaidd newydd i bobl Cymru a hynny trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.

Eisoes erbyn 1550 roedd wedi llunio'r Geiriadur Cymraeg/Saesneg cyntaf,  cyfieithu darnau o Lyfr Gweddi Cyffredin Thomas Cranmer o dan yr enw " Kynnifer Llith a Ban",  a chyhoeddi "Oll synnwyr pen Kembero yngyd" sef casgliad o ddiarhebion Cymraeg oedd wedi eu casglu ynghyd gan ei gyfaill mawr Gruffydd Hiraethog. Ar ben hynny, roedd hefyd wedi cyhoeddi Llyfr Saesneg "A Brief and Playne Introduction to the British Tongue" er mwyn cyflwyno'r Gymraeg a'i hanes i gynulleidfa addysgiedig yn Lloegr.

Yn y cyflwyniadau i'r llyfrau hyn oll, canmolai Salesbury iaith a hanes y Cymry gan grybwyll Cyfreithau Hywel Dda, barddoniaeth Aneirin a Thaliesin a thraddodiadau diwylliannol y wlad yn ymestyn yn ol i gyfnod yr hen Frythoniaid. Ac yntau wedi drachtio mor helaeth o ddysgeidiaeth y Dadeni Dysg yn Ewrop a'r pwyslais cyfredol ar ieithoedd hynafol, roedd Salesbury yntau am ddangos fod gan y Cymry hefyd dreftadaeth allai gystadlu gyda'r gorau.

Ond dim ond megis cychwyn pethau oedd y llenydda hyn. Ei weledigaeth fawr oedd cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, gan ddilyn ol-traed William  Tyndale a'i gyfieithiad Saesneg yn 1525 a chyfieithiad Almaenig Martin Luther yn 1522. Pan ddaeth y syniad hwn iddo gyntaf yn 1547, roedd y rhan fwyaf o'i gyfoedion yn credu mai breuddwyd gwrach oedd hyd yn oed meddwl am y peth. Wedi'r cwbl, ond oedd yna gymaint o ffactorau gwahanol yn milwrio yn ei erbyn?

 Heb son am wynebu'r mynydd o geisio perswadio Senedd San Steffan(a oedd newydd basio deddf yn gwahardd y Gymraeg o fywyd cyhoeddus Cymru) i gytuno- roedd Salesbury hefyd yn wynebu dwy garfan yng Nghymru ei hun oedd yn gwbl wrthwynebus i'w syniadau.

Y garfan gyntaf oedd y Beirdd Traddodiadol. Ceidwadol iawn oedd y Beirdd yn eu hanfod ac yn amheus iawn o rywun fel Salesbury oedd yn gymaint o arloeswr ac mor agored i ddylanwadau newydd o bob cyfeiriad. Pabyddion oedd y Beirdd wrth gwrs, ac un o'u cyhuddiadau mynych yn erbyn Salesbury oedd ei fod yn hyrwyddo "Ffydd Saeson" fel yr adwaenid Protestaniaeth yng Nghymru ar y pryd.

Roedd y beirdd hefyd yn ddrwgdybus iawn o'r gweisg newydd yr oedd Salesbury mor frwd o'u plaid gan boeni y byddai rheiny'n tanseilio eu gafael nhw ar y gwaith o ofalu am lawysgrifau ac ati a'r monopoli oedd ganddyn nhw o drosglwyddo gwybodaeth i bobl Cymru.

Roeddan nhw hefyd yn wrthwynebus  i'r diwylliant Saesneg gyda Salesbury ei hun wrth gwrs yn gwbl gyffyrddus gyda'r Saesneg a'i gweld fel rhan o wead cyfoethog ieithyddol Ewrop. Ac mi roeddan nhw hefyd yn hynod feirniadol o'r iaith a ddefnyddiai Salesbury yn ei waith gyda'i arfer o anwybyddu'r treiglad trwynol a'i awydd i ddangos dylanwad Lladin ar y Gymraeg trwy ddefnyddio ffurfiau megis eclisse( eglwys), popul(pobl), Discipulon( disgybion) a Dew( Duw).

Ond roedd yr ail garfan wrthwynebus yng Nghymru yn fwy fyth o dalcen caled i William Salesbury, sef y Boneddigion, a oedd yn brysur ymgartrefu fel Aelodau Seneddol newydd yn San Steffan ers 1536.

 Roedd y rhan fwyaf o'r rhain wedi hen ddechrau Seisnigo hyd yn oed cyn y Ddeddf Uno ac yn credu mai oferedd llwyr oedd meddwl am gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg o gofio bod y ddeddf honno wedi datgan mai Saesneg oedd iaith swyddogol Cymru bellach.

Doedd ganddyn nhw chwaith ddim diddordeb yn nyheuad Salesbury i geisio goleuo'r Cymry cyffredin gan mai eu prif amcan nhw mewn bywyd yn amlach na pheidio oedd ymddyrchafu eu hunain fel rhan o'r gyfundrefn newydd ac adeiladu stadau a chyfoeth iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.

Ond er ei fod yn cydnabod yr holl rwystrau mewnol ac allanol hyn, ac yn boenus o ymwybodol hefyd o'r holl feirniadu ar yr ieithwedd  a ddefnyddiai, yn ffodus iawn roedd William Salesbury yn ddyn hynod benderfynol. A dim ond miniogi'r natur penderfynol hwn wnaeth y ddeddfwriaeth honno a welodd gyflwyno Llyfr Gweddi Cyffredin Saesneg Thomas Cranmer ym mhob eglwys yng Nghymru o 1549 ymlaen.

Teimlai Salesbury fod y werin Gymraeg eisoes o dan anfantais aruthrol wrth orfod gwrando ar wasanethau eglwysig mewn Lladin, iaith na ddeallent o gwbl. Bellach, roedd yr holl wasanaethau yn cael eu cynnal trwy'r Saesneg- iaith arall nad oedd 90% a mwy o'r Cymry yn ei deall. Pentyrru anwybodaeth ar ben anwybodaeth oedd peth felly yn ei farn ef a'r unig ffordd o fynd i'r afael gyda'r anwybodaeth llethol hon oedd darparu Beibl yn Gymraeg i'r Cymry.

Lansiodd ymgyrch nerthol i'r diben hwn gan bwyso ar ei gysylltiadau a'i gyfeillgarwch gyda nifer o unigolion dylanwadol yn y Senedd a'r Cylch Brenhinol, gan gynnwys Syr William Cecil, Syr Humphrey Llwyd( AS Sir Ddinbych) a Richard Davies a benodwyd yn Esgob Ty Ddewi gan Elizabeth 1af. Ac fe roedd ei gyfeillgarwch gyda'r Cyhoeddwr Humphrey Toy o Lundain( y gwr a fu'n gyfrifol am argraffu'r Testament Newydd yn y pendraw) hefyd yn gwbl allweddol.

 Ac yn rhyfeddol, erbyn 1563 roedd yr holl ymbilio a'r holl ryngweithio dyfal hyn wedi dwyn ffrwyth iddo gyda deddf i ddarparu cyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg yng Nghymru wedi ei phasio gan Senedd San Steffan.

Gwahoddwyd Salesbury ei hun i ymgymryd yn y gwaith cyfieithu gan yr Esgob Richard Davies yn 1565 ac erbyn diwedd 1567, roedd Beiblau Cymraeg eu hiaith, yn cynnwys Y Llyfr Gweddi Cyffredin a'r Testament Newydd wedi'u gosod ym mhob eglwys yng Nghymru a'r offeiriadaeth yng Nghymru wedi eu gorchymyn i'w defnyddio pob Sul.

Rhaid cofio hefyd ei bod yn ofyniad cyfreithiol ar bobl i fynychu'r eglwys pob Sul yn y cyfnod hwn, felly roedd hwn yn ddatblygiad cwbl syfrdanol a gweddnewidiol mewn gwirionedd.

Does dim modd gwybod i sicrwydd pa ddadleuon a ddefnyddioddd Salesbury yn ei gyfarfod tyngedfennol gyda'r frenhines newydd Elizabeth 1af yn nechrau'r 1560au i geisio cymeradwyaeth frenhinol i'r gwaith.Ond mi hoffwn i feddwl bod Salesbury wedi disgyn yn ol ar y priodddull Cymraeg hwnnw: " Os na fydd gryf, bydd gyfrwys".

Roedd Salesbury wedi deall beth yn union oedd oblygiadau'r Brexit cyntaf. Roedd Prydain wedi cefnu ar yr hen gyswllt traddodiadol gyda Rhufain a'r Babaeth a bellach yn torri ei chwys ei hun yn y byd. Wrth wynebu dyfodol ansicr a gelynion ar bob tu, gwelodd y cyfle i bwysleisio hen draddodiadau Prydain allai gynnig gwaelod a nerth i'r drefn newydd ac wrth gwrs, un o'r traddodiadau hynny oedd y Gymraeg, Deddf Uno neu beidio.

 Mae son bod dau o gynorthwywyr personol Elizabeth 1 yn siaradwyr Cymraeg a'i bod hithau wedyn yn gyfarwydd gyda synau'r Gymraeg o oedran cynnar iawn. Mae'n bosib bod Salesbury wedi gallu apelio at rai o'i hatgofion cynharaf a chynhesaf yn ei apel am Feibl trwy'r Gymraeg.

Ond pryderon crefyddol y cyfnod oedd man gwan y drefn newydd, ac mae'n sicr bod Salesbury wedi defnyddio'i holl gyfrwystra fel cyfreithiwr i fanteisio'n llwyr ar hyn.

Gellid ei ddychmygu'n dweud peth fel hyn wrth Elizabeth 1af : "Eich Mawrhydi. Does ond ychydig o flynyddoedd ers teyrnasiad Mari Waedlyd ac mae'n gelynion Pabyddol ar waith o hyd heddiw. Yn anffodus, mae Cymru druan dal yng ngafael y Babyddiaeth dywyll hon. Credaf bod yna berig gwirioneddol y bydd ein gelynion Pabyddol yn ceisio ymosod ar eich teyrnas gan ddefnyddio Cymru fel sail ar gyfer gwneud hynny."

 "Anwybodaeth sy'n cynnal yr ymlyniad hwn at Babyddiaeth eich Mawrhydri. Anwybodaeth ac ofergoeliaeth yn unig. Trwy roi'r Beibl i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain, gallent ddianc rhag yr anwybodaeth a'r ofergoeliaeth hwn o'r diwedd a dysgu cofleidio'r ffydd Brotestanaidd a'r drefn newydd yr ydych chi yn ei harwain".

A phebai Elizabeth 1af wedi atgoffa Salesbury am y cymal hwnnw am ddileu'r iaith Gymraeg yn y Ddedd Uno a gyflwynwyd gan ei thad cenhedlaeth ynghynt, gallwn ddychmygu y Salesbury hirben yn awgrymu wrthi hefyd y gellid cyflwyno Beiblau Saesneg ochr yn ochr gyda'r Beiblau Cymraeg yn yr eglwysi, ac y byddai hynny'n fodd i alluogi'r Cymry i ddysgu Saesneg hefyd maes o law.

Mae'n debyg bod Salesbury wedi llwyr fwriadu cwblhau gorchymyn Deddf 1563 trwy fynd ymlaen i gyfieithu'r Hen Destament hefyd ac yn wir, roedd wedi cychwyn ar y gwaith hwnnw. Ond bu colli ei wraig Catrin a'i fab Elisau o fewn dwy flynedd i'w gilydd yn ergyd drom iddo ac fe roddodd y gorau iddi- gyda'r gwaith wedyn yn cael ei gwblhau gan yr Esgob William Morgan yn 1588.

Mae ysgolheigion cyfoes yn gytun mai'r elfen gyffredin sy'n perthyn i ieithoedd Ewrop sy'n parhau i gael eu siarad fel ieithoedd byw heddiw yw eu bod wedi derbyn y Beibl yn eu hiaith eu hunain cyn 1600. Does dim amheuaeth felly bod William Salesbury, wrth gyfieithu'r Testament Newydd yn 1567 a gosod y seiliau a ddilynwyd wedyn gan yr Esgob William Morgan yn 1588, wedi llwyddo i achub y Gymraeg trwy gyfrwng ei ymdrechion a'i ffydd.

Ond, faint ohonom sydd yn llwyr werthfawrogi ei gynhysgaeth ieithyddol helaeth i ddatblygiad y Gymraeg fel iaith? Dyma rai enghreifftiau o'r holl eiriau Cymraeg newydd a fathwyd gan Salesbury ar gyfer ei Destament Newydd: Afieithus, Anghenus, Anghofio, Amheus, Anadlu, Anffortunus,Anwybodaeth, Anghrediniaeth, Anghytuno, Amhosib, Anerchiad, Argyhoeddi, Aruthrol, Ariangar.

Geiriau sydd mor gyfarwydd ac mor naturiol yn ein hiaith hyd heddiw. A dim ond geiriau'n cychwyn gydag A yw'r rheiny!

Salesbury hefyd a gyflwynodd y ffurfiau Ei, Ein, ac Eich i'r Gymraeg( o'r ffurf Deius yn Lladin) a'r ffurf Mai( i'w wahaniaethu rhwng hynny a Mae).

Mae'n dyled iddo fel cenedl yn anfesuradwy a phriodol iawn felly bydd cofio amdano a'i gymwynasau crefyddol ac ieithyddol i Gymru ar Ddiwrnod Dathlu'r Diwygiad Protestanaidd ar Hydref 31ain.

Byddai'n wir i ddweud mai och a gwae yw hi gan fwyaf yn y Gymru Gymraeg gyfoes wrth ystyried y Brexit presennol a'r rhan fwyaf o ddigon yn darogan y bydd y digwyddiad hwn yn berygl einioes i Gymru a'r Gymraeg ei hun.

Ond pan ddigwyddodd y Brexit cyntaf, gwelodd William Salesbury ei fod yn cynnig cyfle newydd i'r Gymraeg gan fod rhaid i Brydain bwyso ar ei threftadaeth hynafol fel amddiffynfa- a beth oedd yn fwy hynafol fel rhan o'r dreftadaeth honno na'r Gymraeg?

Tybed yn wir allai'r Brexit presennol ddilyn trywydd digon tebyg. Hynny ydi, wrth ddisgyn yn ol ar adnoddau Ynys Prydain wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, tybed oes cyfle o'r newydd i gyflwyno rhan bwysig o dreftadaeth Prydain i bobl- sef bodolaeth y Gymraeg fel rhan allweddol o ddatblygiad yr ynysoedd hyn ar hyd y canrifoedd, a'r ysbrydolrwydd hwnnw sydd wastad wedi cyd-gerdded gyda'r iaith o'r cychwyn cyntaf..

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.
I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.
I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.
I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Headline

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Headline

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Headline

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Headline

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Headline

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Headline

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Hen lanc ac hen ferch- hen lol wirion bellach!

YN DRADDODIADOL, testun piti a dirmyg yn aml fu unigolion yng Nghymru heb fod yn briod. Onid yw'r termau a ddefnyddiwn i ddisgrifio pobl fel hyn- hen lanc ac hen ferch- yn cyfleu'r modd hynny o feddwl i'r dim?

Mae'n cyfleu darlun o unigolion sydd wedi syrthio'n brin iawn o'r nod a ystyrir gan gymdeithas fel ryw safon aur i ymgyrraedd ato o hyd- y cyflwr priodasol.A'u bod o'r herwydd wedi eu tynghedu i fyw bywydau unig, diflas a di-gysur.

Ond y gwir amdani ydi bod y termau hyn bellach yn chwerthinllyd o hen ffasiwn, o gofio fod hyd at 38% o bobl Cymru erbyn hyn yn sengl.

Mae'n hen bryd felly ail-ddiffinio'r cyflwr sengl mewn modd sy'n ei gyfleu mewn modd mwy cadarnhaol- o ran yr unigolion dan sylw eu hunain a'n cymdeithas yng Nghymru ei hun hefyd.

Mewn arolwg diweddar yng Ngwledydd Prydain, holwyd nifer helaeth o bobl ynghylch beth y byddent am gael mwy ohono yn eu bywydau pob dydd. Nid mwy o arian, nid mwy o statws, nid mwy o "bethau" oedd bwysicaf gan y rhai a fu'n rhan o'r arolwg. Yn hytrach, ar ben y rhestr ddymuniadau, oedd cael mwy o ORFFWYS. Hynny ydi, mwy o amser iddyn nhw eu hunain yn nghanol prysurdeb gwyllt ein bywyd cyfoes.

Ac un o nodweddion creiddiol bywyd sengl cyfoes( ac un o'r rhesymau pam bod mwy yn ei ddewis erbyn hyn siwr gen i) ydi cael mwy o amser i'r hunan a mwy o reolaeth dros yr amser hwnnw.

Dwi'n cyfrif fy hun yn eithriadol o ffortunus yn fy mywyd fel dyn sengl yn ei bumdegau cynnar bod gen i'r ffasiwn ryddid i dreulio fy amser yn y modd sydd fwyaf priodol imi fel unigolyn.

Fel rhywun a fyddai'n disgrifio ei hun fel Mewnblygyn Cymdeithasol( Social Introvert)- dwi'n hoff iawn o fy nghwmni fy hun ac mae'n rhaid imi gael yr amser hwnnw. Ond, dwi hefyd yn gwerthfawrogi pa mor eithriadol o bwysig ydi ymwneud gyda phobl eraill ar wahanol lefelau. Sicrhau cydbwysedd rhwg y ddwy elfen hon yma ydi'r allwedd imi wrth fyw fy mywyd.

Dwi'n nabod y patrwm sy'n fy siwtio i orau bellach: cyfnodau o ymwneud prysur gyda gwahanol bobl ac yna cyfnod o dawelwch a llonyddwch ar ben fy hun er mwyn ail-wefru'r batris personol.

Mae'n andros o bwysig imi gael amser ar ben fy hun i feddwl, i ddarllen, i dreulio amser hefo'r Bod Mawr a jest BOD fel unigolyn heb orfod siarad ac ymwneud hefo rhywun arall rownd y ril.

Wrth gael yr amser hwn imi fy hun, mae fy ymwneud gyda phobl eraill ar wahanol lefelau wedyn yn llawer mwy pleserus ac ystyrlon imi.

Mae seicolegydd Americanaidd o'r enw Nancy De Lillo wedi cynnal llawer o ymchwil ar bobl sengl dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ei hymchwil hi'n ddadlennol iawn ar sawl cyfrif. Mae ei hymchwil yn dangos bod yna fanteision mawr i fod yn sengl, nid yn unig o ran yr unigolion eu hunain ond o ran cymdeithas hefyd.

Dywed bod pobl sengl yn cynnal gwell cysylltiad gyda'u rhieni na phobl briod fel rheol. Mae ganddyn nhw fwy o ffrindiau na phobl briod. Mae pobl sengl hefyd yn llawer parotach i ymroi i faterion cymdeithasol a gwleidyddol yn eu cymunedau. Maen nhw hefyd yn fwy agored i brofiadau newydd ac yn amlach na pheidio yn gallu tyfu mwy fel unigolion na'u cyfoedion priod.

Byddai rhai yn siwr o ddadlau bod y cynnydd mewn bywyd sengl heddiw yn arwydd o chwalfa gymdeithasol gyffredinol, a bod hynny yn creu canlyniadau dinistriol i fywydau unigolion, teuluoedd a plant a phobl ifanc fel ei gilydd.

Fyddwn i ddim yn gwadu bod yna lawer o broblemau cymdeithasol wedi dod i'r golwg yn sgil y ffenomena newydd hon dros y genhedlaeth ddiwethaf. Dan ni'n gwybod er enghraifft bod unigrwydd yn broblem fawr yn ein hoes ni ac mae hynny i raddau yn codi o'r datod sydd wedi digwydd ar y clymau teuluol a chymunedol a fu'n rhan o batrwm byw yma cyhyd.

Ond, mae'n bosib dadlau hefyd ein bod yn dechrau gweld arwyddion mwy gobeithiol gyda'r ffenomena hon ac nad oes rhaid iddo fod yn arwydd o hunanoldeb llwyr ar ran yr unigolion sy'n dewis byw fel hyn.

"Marriage is a great institution but who wants to live in an institution!" chwedl Groucho Marx.

Er mor greiddiol yw'r sefydliad hwn o ran sefydlogrwydd unigolion a bywyd teuluol, rhaid cydnabod hefyd mai un o nodweddion priodas ydi ei fod yn cyfyngyu cylchoedd gofal a chylchoedd diddordeb unigolion i aelodau eu teulu agos yn unig.

Gan nad ydyn nhw yn rhan o'r cylch mewnblyg hwn, mae pobl sengl yn gallu ymestyn eu cylchoedd gofal i a'u cylchoeddd diddordeb i  gynnwys mwy o bobl ar wahanol lefelau.

Ac mae hynny'n eithriadol bwysig gan mai pobl eraill sy'n rhoi blas ar fyw inni fel bodau dynol.

O ran y patrwm hwn o symud o fywyd priodasol i fywyd sengl a chofleidio mwy o bobl yn ein cylchoedd gofal yn ein cyfnod ni, tybed hefyd a welwn ni ddatblygiad pellach eto maes o law?

Mae cysyniad "Shared Living" eisoes yn boblogaidd iawn mewn gwledydd blaengar fel y Gwledydd Sgandinafaidd, ble y gwelwn ni gylch o ffrindiau neu gydnabod yn dewis byw gyda'i gilydd mewn tai pwrpasol gyda gofod unigol a gofod cymunedol yn rhan o'r datblygiadau hyn. Mae'r cysyniad hwn yn gallu cynnig y cyfuniad perfffaith o ofod personol, ymwneud gydag eraill a chefnogaeth gymunedol y mae pawb ohonom yn crefu amdano yn ei hanfod.

All neb broffwydo'r dyfodol a does wybod pa mor hir y pery'r cyflwr sengl hwn yn fy hanes i. Y cwbl wn i ydi bod y dull hwn o fyw yn fy siwtio i i'r dim ar hyn o bryd.

Dwi'n mwynhau'r rhyddid, y tawelwch a'r hunan-ddibyniaeth llesol sy'n deillio ohono a dwi wedi tyfu mwy fel unigolyn yn y cyflwr hwn nag mewn unrhyw briodas na pherthynas flaenorol yn fy hanes i.

Wrth gwrs,byddai'n braf cael hyd i bartner newydd yn y man, ond dwi'n ryw feddwl y byddai'r rhaid i'r partner honno fod yn berchen ar yr un ysbryd annibynol sy mor bwysig imi!

 

.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Headline

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Cil-y-Cwm a Phantycelyn- fe lif yr Ysbryd ble y mynn

BYDD syniad a flagurodd yn araf dros y misoedd diwethaf yn cyrraedd ei benllanw ddydd Mercher, pan fydd Tim Hodgins o Bort Talbot a finnau'n cyflwyno ein deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i goffau tri chan mlwyddiant geni Y Per Ganiedydd, William Williams, Pantycelyn eleni.

Ar ddiwedd y broses hon, teimlad o werthfawrogiad dwfn sydd gen i a diolchgarwch mod i wedi cael treulio ychydig o amser yn dysgu mwy am y cawr hwn, a'i gyfraniad rhyfeddol i fywyd cenedlaethol Cymru.

Emynydd, bardd, awdur, efengylydd, teithiwr, trefnydd, cwnselydd- a gafwyd yn wir unigolyn mwy dylanwadol na'r Hen Bant yng Nghymru dros y canrifoedd diwethaf?

A finnau hefyd ar raglen genhadaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac wedi cael cyfle i fynd i gyflwyno'r Gair mewn sawl ardal dros y misoedd diwethaf, dwi hefyd yn ddyledus iawn i Bantycelyn am gynnig testun mor wefreiddiol i draethu amdano eleni.

Yr hyn a'm synnodd i oedd cymaint o anwybodaeth sydd ymhlith aelodau'n heglwysi am gampau Pantycelyn, a'r ffaith ei fod cymaint mwy nag emynydd yn unig, er mai'r cyfrwng hwnnw oedd ei forte yn ddi-gwestiwn.

Dyna un o'r elfennau a'm hysgogodd i gychwyn y ddeiseb mewn gwirionedd, gan wybod cymaint mwy fyddai'r anwybodaeth ymhlith trwch poblogaeth Cymru amdano, os mai annigonol yn wir oedd hyd a lled gwybodaeth dilynwyr y ffydd yma.

Gobaith Tim a finnau ydi y bydd y bron i 1,500 o lofnodion sydd wedi eu casglu ar y ddeiseb a gaiff ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau y Senedd ddydd Mercher, yn fodd i berswadio'r Llywodraeth y dylid gwneud yn iawn am yr amnesia hanesyddol difrifol hwn a choffau Pantycelyn mewn modd priodol.Er mwyn i bobl Cymru gael gwybod amdano a'i gyfraniad a dysgu mwy am eu hanes eu hunain yn y broses.

Mae'n rhyfedd hefyd sut y mae ymgyrchoedd fel hyn yn gallu magu traed a datblygu ryw fywyd newydd ohonynt eu hunain.

 Dydd Sadwrn diwethaf, penderfynodd Tim a finnau a ffrind arall inni o Gaerdydd, Dafydd Williams, gynnal taith gerdded yn ardal Llanymddyfri fel un ymdrech olaf cyn cyflwyno'r ddeiseb i'r gwleidyddion yng Nghaerdydd.

Roeddan ni am ymglywed gyda'r hyn yr oedd yr ysbryd yn ei ddweud wrthon ni yn ardal enedigol Williams ei hun a hynny ar daith gerdded o Lanymddyfri i fyny i Cil-y-Cwm, lle roedd y dyn mawr yn aelod yn eglwys Ty Newydd. Cawsom wybod hefyd bod yna aelodau o Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gweddio drosom wrth inni fynd ar ein taith gerdded.

Mae'n ardal hynod hardd a hynny'n sicr o fod wedi ysbrydoli Williams wrth iddo fynd ati i gyfansoddi ei holl emynau ac yntau'n gweld harddwch y greadigaeth yn fynegiant allanol o harddwch Duw ei hun.

Hardd neu beidio, roeddan ni ar goll yn llwyr yn Cil-y-Cwm a dim syniad ble i chwilio am hen eglwys William Williams! Ar yr amrantiad hwnnw, pwy ddaeth i'r adwy ond Mr Christopher Jones,a fynnodd yn garedig iawn roi lifft inni yn ei gar tuag at eglwys Ty Newydd, sawl milltir i ffwrdd.

Yn ystod y daith at yr eglwys, mi soniodd Mr Jones am ddarlith oedd i'w chynnal yn ardal gyfagos Cynghordy ar y Nos Lun, a hynny i drafod bywyd a gwaith Pantycelyn.

Yn fwy na hynny, roedd Mr Jones yn adnabod y siaradwr y noson honno, sef y Parch Dr Wynford Thomas ac yn gallu ein cyfeirio at ei gartref newydd sbon yn Llanymddyfri yr oedd newydd symud iddo yn ddiweddar!

 Wedi i Tim a finnau guro ar ddrws Dr.Thomas, roedd yntau'n barod iawn i'n helpu gyda'r ddeiseb gan gynnig cyflwyno'r taflenni'r ddeiseb i'w harwyddo yn ystod y cyfarfod- gan amcangyfrif y gallai hynny ychwanegu tua 100 o enwau at ein deiseb.

A rhaid peidio anghofio cyfraniad Michael O'Shea chwaith- roedd y siopwr  hwn yn fodlon iawn i'n helpu hefyd gan gyfrannu amlen fawr a stamp am ddim, fel bo modd i Dr.Thomas ddanfon y llofnodion ymlaen at swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nhaerdydd erbyn dydd Mercher.

Imi, nid cyd-ddigwyddiadau ffortunus oedd y rhain. Ceisio wyneb Duw oeddan ni wrth gynnal y daith gerdded hon mewn gwirionedd. Ceisio gweld beth y mae o am inni ei wneud yng Nghymru heddiw ac yfory. Mae'r ceisio hwn wastad yn arwain at fendithion ar lefel yr unigolyn ac ar lefel y gymdeithas.

" Galwa arnaf ac fe atebaf, ac fe ddangosaf iti bethau dirgel a rhyfeddol na wyddost ti amdanynt". Jeremeia 33.3.

Falle'n wir mai dim ond 7% sy'n mynd i'n heglwysi heddiw. Ond anghofiwch yr ystadegau moel hynny. Mae Cymru'n para'n wlad ysbrydol iawn er gwaetha popeth.

Falle bod yr ysbryd wedi llifo allan o'n heglwysi at ei gilydd heddiw., Ond mae'r ysbryd yn gorwedd yn ein tir ac yn ein pobl yn paratoi ar gyfer tywalltiad newydd a nerthol iawn cyn pen dim.

Nid diwygiad ond adfywiad y tro hwn.  Adfywiad all ein rhyddhau'n feddyliol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.

 

 

 

 

 

Awydd am Annibyniaeth ddi-blaid yn dechrau cyniwair?

MAE yna baradocs rhyfedd ar waith yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd gydag un o'n pleidiau a'r hyn sy'n greiddiol i'w bodolaeth hwy.

Ers yr Etholiad Cyffredinol, tyfu fu'r anniddigrwydd cynyddol ymhlith llawer ynghylch perfformiad a chyfeiriad ein plaid genedlaethol, Plaid Cymru. Er iddyn nhw ennill un sedd ychwanegol y tro hwn yng Ngheredigion, disgynnodd eu cyfran o'r bleidlais i'w lefel isaf ers cenhedlaeth, ac fe fu eu perfformiad mewn sawl un o'u seddau targed allweddol yn siomedig a dweud y lleiaf. Bu cefnogaeth eu harweinwyr lleol yng Ngwynedd i'r Cynllun Datblygu Lleol wedyn yn gyfrwg i ychwanegu at yr anfodlonrwydd cyffredinol hwn.

Bellach, mae'n ymddangos bod o leiaf dau o'u haelodau yn y Cynulliad( Rhun ap Iorwerth a Neil McEvoy) yn paratoi ar gyfer ymgeisio am yr arweinyddiaeth, er nad oes bwlch swyddogol i'w lenwi ar hyn o bryd. Er fod y syniad hwn yn cyffroi rhai o'r ffyddloniaid, y trafferth efo gornestau fel hyn yn amlach na pheidio ydi eu bod nhw'n gyfaddefiad cyhoeddus o fethiant ar ran y blaid dan sylw . Ac at ei gilydd , dydi pobl ddim yn licio bod yn gysylltiedig gyda methiant.

Ond ar yr un pryd hefyd yr hyn sy'n rhyfedd iawn ydi ei bod fel petai'r awydd am annibyniaeth i Gymru ei hun yn cychwyn magu traed yn ddistaw bach. Mae dyn yn synhwyro bod y syniad, er mor amrwd yw union ffurf y syniad hyd yma, yn ryw ddechrau styrian ymhlith pobl erbyn hyn.

Ar un ystyr, mae hyn yn hollol ddi-synnwyr. Wedi'r cwbl, mae'r unig blaid Gymreig sydd wedi datgan ei bod o blaid annibyniaeth i Gymru,(er trwy wysg eu dannedd yn aml) wedi bod yn troi yn ei hunfan am flynyddoedd, heb unrhyw arwydd ei bod am dorri trwodd ar lefel genedlaethol.

Yn waeth na hynny, mae hi fel petai'r blaid ei hun ar fin ymrwygo rhwng y rhai sydd am fod yn deyrngar i Leanne Wood uwchlaw popeth a'r rhai hynny sydd fel petaent am weld "rhywun ond Leanne" wrth y llyw bellach. Mae'n rhoi'r argraff i'r cyhoedd mai dadl am "bersenoliaeth" yw hyn uwchlaw unrhyw egwyddor sylfaenol fel y cyfryw.

Byddai rhywun yn tybio y byddai hynny yn ei dro yn fodd i gladdu'r syniad o annibyniaeth i Gymru unwaith ac am byth. Ond, eto nid felly mae hi o gwbl.

Roedd arolwg a gynhaliwyd cyn yr etholiad cyffredinol, yn dangos bod 35% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth i Gymru pe bai'r Ceidwadwyr yn ennill grym unwaith yn rhagor. Un arolwg ac un wennol ni wna wanwyn wrth gwrs.

Ond, mae YES Cymru, y symudiad newydd amhleidiol o blaid annibyniaeth i Gymru, fel petai yn mynd o nerth i nerth gyda grwpiau newydd yn dechrau ymddangos ym mhob rhan o Gymru.

Yr wythnos nesaf bydd YES Cymru yn cynnal dwy wyl annibyniaeth i nodi Diwrnod Owain Glyndwr ar Fedi 16. Bydd y digwyddiadau cysylltiedig hyn yn y de a'r gogledd yn adlewyrchu'r ffaith fod YES Cymru yn bwrw gwreiddiau a chreu cysylltiadau rhwng dwy ardal hynod arwyddocaol i ddeinameg Cymru heddiw, sef Caerdydd y brifddinas a Chaernarfon, prif ddinas y Gymru Gymraeg.

Beth sy'n drawiadol iawn am YES Cymru ydi'r ffaith ei bod yn denu pobol newydd i'w rhengoedd, pobl nad ydynt wedi perthyn i'r mudiad cenedlaethol o'r blaen, nag i unrhyw bleidiau gwleidyddol eraill chwaith yn aml. Pobol sydd heb unrhyw ymlyniad i'r hen fodel wleidyddol ac felly o bosib yn fwy rhydd i allu dychmygu dyfodol gwahanol a chynhyrfus i Gymru.

Mae'n ddyddiau cynnar wrth gwrs, ond mae'n argoeli fel pe bai'r ddeialog fyrlymus rhwng siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg sydd ar waith gyda'r mudiad yn dechrau cau'r bwlch hwn rhwng y Gymru Gymraeg a'r Gymru Di-Gymraeg a fu'n gymaint o faen tramgwydd i'r mudiad cenedlaethol cyhyd.

Felly, beth allai fod i gyfrif am y newid hwn yn y gwynt?

Mae'n fwy na thebyg bod llwyddiant y tim pel-droed yn Ewros 2016 yn rhan allweddol ohono. Roedd y modd y daeth Cymru ynghyd, yn Gymry Cymraeg a Chymry Di-Gymraeg fel ei gilydd yn ystod y gystadleuaeth hon a'r ganmoliaeth a gafodd y tim a'r cefnogwyr hwythau ar lwyfan mawr Ewropeaidd yn hwb seicolegol enfawr i wlad a phobl fu mor anweladwy cyhyd.

Mae'r momentwm newydd a gafodd y tim cenedlaethol yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstria nos Sadwrn, a gol ryfeddol y "Shane Williams" newydd ar ffurfafen chwaraeon Cymru, yn debyg o atgyfnerthu'r tueddiadau hyn.

Digwyddodd yr Ewros wrth gwrs ar yr union adeg y cafodd llawer eu syfrdanu yng Nghymru gan ganlyniad y Refferendwm ar Ewrop, a'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae fel petai y naill ddigwyddiad a'r llall a'r cysylltiad creiddiol rhyngddynt wedi newid pethau ar ryw lefel sylfaenol yng Nghymru. 

Blwyddyn yn ddiweddarach, mae Brexit ar waith ond mae'n ymddangos yn gynyddol fod y Llywodraeth Geidwadol wedi creu cors cwbl ddi-gynsail iddyn nhw eu hunain gyda hyn oll. A fawr o argoel bod hyn am newid yn y dyfodol agos.

Ac eto does dim pall ar y synnwyr hwn o neilltuolrwydd (exceptionalism) a roddodd gychwyn i'r broses ac sydd dal i lywio holl feddwl y Llywodraeth yn y bon.

Wele eu datganiad cwbl chwerthinllyd na fydd angen iddyn nhw godi ffin yng ngogledd Iwerddon wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ac y dylid cario mlaen gyda'r trefniadau masnachu presennol - yn union fel tae'r bleidlais i adael heb ddigwydd o gwbl!

Rydym eisoes yn gwybod fod yr ymateb allanol i hyn oll gan arweinwyr y Gymuned Ewropeaidd yn gymysgedd o syfrdan, rhwystredigaeth ac anghrediniaeth.

Ond mae'r ymateb mewnol hefyd yr un mor arwyddocaol. Mae pobl yma eisoes yn ymwybodol o'r holl gelwyddau a'r propoganda cywilyddus( a daenwyd gan ddwy ochr y ddadl Brexit) y llynedd.  Bellach, maen nhw'n gweld Llywodraeth gloff a rhannedig sy'n prysur gwneud twll dwfn yn ddyfnach fyth i'w hunain a phawb arall hefyd. 

 Tybed a yw hyn oll wedi dwysau'r teimlad cyhoeddus hwn( oedd eisoes yn bodoli) nad oes modd ymddiried mewn gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol o gwbl bellach?.

Ac os yw Plaid Cymru yn cael ei heffeithio gan hyn, mae'n bownd o fod yn wir am y pleidiau eraill hefyd.Mae fel petai pobol yn chwilio'n ddyfal erbyn hyn am ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth, heb ddibynnu ar fodel sydd wedi siomi a dieithrio cymaint o bobl ar gymaint o achlysuron gwahanol dros y blynyddoedd diwethaf.

Falle'n wir y byddai'n haws cyflwyno model wahanol yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r ynysoedd hyn oherwydd maint Cymru a'r cyfalaf cymdeithasol( social capital) cyfoethog sydd ganddi. Yr union ddwy nodwedd allweddol a danlinellwyd wrth i Seland Newydd(  gyda phoblogaeth o 3 miliwn hithau) gael ei henwi y wlad fwyaf llewyrchus yn y byd gan y Legatum Institute yn ddiweddar.

A beth bynnag yw barn pobol am Brexit ei hun- un ffaith ddiymwadwy erbyn hyn yw bod y synnwyr o hunaniaeth a pherthyn yn ol ar yr agenda wleidyddol bellach.

Mae syniad biwrocrataidd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd o greu cyfandir cwbl droedrydd a phoblogaeth unffurf na fyddai ganddyn nhw unrhyw synnwyr o berthyn i'w tir eu hunain na'u diwylliant unigol ei hunain wedi ei chwalu'n ufflon.

Ac er gwaethaf ymffrost y Brexiteers uchel eu cloch am ad-ennill eu hunaniaeth , gellid dadlau fod y synnwyr creiddiol hwn yn gryfach yng Nghymru nag unman arall ar yr ynysoedd hyn.

Yr her i YES Cymru ydi defnyddio'r gwynt newydd sydd yn hwyliau'r hen ymdeimlad hwn i gyflwyno annibyniaeth fel y model newydd, creadigol a phobol-ganolog sydd ei angen ar Gymru yn y cyfnod nesaf hwn.

Yn hyn o beth, efallai y gallent geisio efelychu Alternativet o Ddenmarc sy'n disgrifio'u hunain fel "platfform gwleidyddol" yn hytrach na phlaid ac sydd wedi seilio eu gweledigaeth ar 6 o werthoedd sylfaenol yn hytrach na pholisiau.

Maen nhw'n defnyddio elfennau megis cerddoriaeth, drama, celfyddyd weledol a chomedi ymhlith pethau eraill er mwyn cyflwyno eu syniadau i bobl Denmarc mewn modd sy'n hollol wahanol i'r hen ffordd o wneud gwleidyddiaeth.

Un o'r elfennau mwyaf poblogaidd yn eu dull gweithredu ydi'r "labordai dychmygu" sydd wedi eu cynnal ar hyd a lled Denmarc er mwyn tynnu pobol gyffredin i mewn llawer mwy i'r gwaith o ail-ddychmygu eu cymdeithas a'u heconomi. 

 "Dan ni isio gwneud gwleidyddiaeth yn ddynol eto, a chael pobol yn cyd-greu eu dyfodol eu hunain" meddai Ulffa Ubek, un o arweinwyr Alternativet.

Dim ond yn 2014 y sefydlwyd Alternativet, ond yn Etholiad Cyffredinol Denmarc y llynedd, cawsant 5% o'r bleidlais gan ennill 9 sedd yn Senedd Genedlaethol.

Dydi YES Cymru heb awgrymu eto eu bod am sefyll ar gyfer etholiadau yng Nghymru, ond o gofio bod system bleidleisio STV( Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy) yn debyg o gael ei gyflwyno i'r Senedd yma yn 2021- gan olygu y bydd hi'n haws i grwpiau newydd ennill seddau yno- dydi hi ddim yn gwbl amhosib y gallai hyn ddigwydd.

Beth bynnag am hynny, mae'r awyrgylch gwrth-bleidiau gwleidyddol presennol yn siwr o gynnig tir ffrwythlon i symudiad fel hwn yng Nghymru heddiw.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Corbyn: yr arweinydd modern sobr o hen ffasiwn

ROEDD gwrando ar Jeremy Corbyn yn annerch ym Mangor pnawn Sadwrn yn brofiad digon cymysglyd a dweud y lleiaf.

Rhaid dweud imi gael fy synnu o'r ochr orau gyda'i sgiliau annerch gerbron y dorf o tua 400 ddaeth ynghyd ger pwll nofio Bangor. Bu wrthi'n traethu heb nodiadau am yn agos i 40 munud, gan gyffwrdd ar beth wmbreth o bynciau polisi gwahanol.

Gyda llais clir sy'n hawdd iawn gwrando arno, mae'n gallu cynnal sylw cynulleidfa yn rhwydd iawn. O weld y perfformiad hwn, does ryfedd iddo wneud cymaint o argraff ar bobl yn yr holl raliau cyhoeddus hynny a gynhaliodd cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Yn sicr, doedd rhywun ddim yn gallu dychmygu'r Prif Weinidog Theresa May yn sefyll yno yn traethu mor ddiymdrech fel hyn. A bod yn onest, go brin bod yna unrhyw wleidydd Cymreig allai gystadlu hefo fo ar y gwastad hwn. Ar wahan i Adam Price ar ei orau efallai.

Cryfder mawr Corbyn ydi ei fod yn gallu rhoi rhoi mynegiant huawdl iawn i boen a gofid pobol gyffredin. Cafodd y gymeradwyaeth fwyaf o ddigon wrth iddo son am ei fwriad i ddileu contractau "zero-hours", a rhoi llawer mwy o sylw i faterion iechyd meddwl pe bai''n ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Roedd hi'n amlwg iawn o'r gymeradwyaeth fyddarol yn dilyn y pwyntiau hyn ei fod o wedi taro nerf sensitif iawn wrth godi'r materion hyn ymhlith pobol Bangor a'r cylch. A phobol y cylch hwn o bob oedran oedd y rhan fwyaf o ddigon oedd yna heddiw, yn groes i'r dybiaeth gyffredinol mai myfyrwyr ifanc ydi ei gefnogwyr craidd.

A finnau wedi bod yn sefyll ar faes arall wythnos ynghynt ym Modedern, roedd heddiw yn brofiad gwahanol iawn.  Os mai hunan-hyder a llewyrch cyffredinol oedd i'w weld ymlith pobl ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, synnwyr o ddicter ac amddifadedd oedd prif nodweddion cynulleidfa heddiw. Bron yr oedd rhywun yn gallu anadlu saith mlynedd o agenda gyni'r Toriaid o dan y coed ym Mangor heddiw a'r hyn y mae hynny wedi'i wneud ar lefel bersonol a seicolegol yn hanes y bobl oedd yna heddiw, eu teuluoedd a'u cydnabod.

Roedd hi fel petawn i wedi glanio mewn gwlad cwbl wahanol, er mai wythnos a llai na 20 milltir oedd yn gwahanu'r ddau amgylchiad. Ond wedyn, roedd hynny'n fodd i atgoffa dyn eto cymaint o "bubble" ydi'r Eisteddfod mewn gwirionedd....

Rhoddodd Jeremy Corbyn hefyd bwyslais mawr heddiw ar y ffaith ei fod yn arwain plaid fodern mewn modd cwbl fodern. Soniodd sut oedd ei raliau cyhoeddus yn fodd i gydnabod yr awch sydd gan bobl heddiw i gyfranogi mewn gwleidyddiaeth mewn ffyrdd newydd a chreadigol.

Amlinellodd y dulliau ymgyrchu newydd a ychwanegodd 2 filiwn o bleidleiswyr newydd ar y rhestr etholwyr ar gyfer yr etholiad, a sut oedd Llafur wedi gwneud defnydd mawr o'r technegau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf i dargedu pleidleiswyr. Ac wrth gwrs, bu ond y dim i'r tactegau modern newydd hyn gipio sedd Arfon ei hun.

Roedd yn gwbl ffyddiog y byddai etholiad arall yn cael ei gynnal o fewn ychydig fisoedd, ac mai gallu'r Blaid i ysgogi a mobiwleiddio pobl o'r newydd oedd yr allwedd i sicrhau mai Llafur a fyddai'n fuddugol y tro hwn. Un push arall oedd y neges i'r ffyddloniaid.

Heb os, roedd yna rhywbeth bywiol a gobeithiol iawn mewn gweld gwleidydd yn barod i siarad yn uniongyrchol hefo pobl yn eu cymuned eu hunain fel hyn,gan roi mynegiant mor groyw i gymaint o'u cynddaredd a'u pryderon am amgylchiadau bywyd heddiw.

A rhywbedd crediddiol Gymreig hefyd yn y modd yr oedd Jeremy Corbyn yn taranu yn erbyn yr anghyfartaledd a'r anghyfiawnder sylfaenol sy'n gymaint rhan o'n cymdeithas gyfoes.

Arweinydd modern iawn felly. Ac eto. Ac eto.

Allwn i ddim llai na meddwl mai arweinydd sobr o hen ffasiwn hefyd a ymddangosodd gerbron pobl Bangor heddiw.

Yn ei bwyslais llwythol ar y Blaid Lafur a gwerthoedd y blaid honno uwchlaw pob plaid arall, doedd dim cydnabyddiaeth o'r bliwraliaeth wleidyddol sy'n cymaint rhan o gymdeithas heddiw, na'r ffaith fod y rhan fwyaf o bobl yn amheus iawn o bleidiau gwleidyddol o bob math. 

Ac er yr holl son am y cyfranogi gwleidyddol newydd, y synnwyr ges i oedd mai arweinydd Sosialaidd o'r brig i lawr a fyddai Jeremy Corbyn ac mai ychydig iawn o gyfranogi go iawn a fyddai'n dod i ran pobol gyffredin pe bai'n dod yn Brif Weinidog.

Ac yntau'n unoliaethwr Prydeinig o'i gorun i'w sawdl, mae'n hawdd gweld hefyd mai rhedeg "command economy"  draddodiadol o Lundain ar gyfer Prydain gyfan ydi ei nod. Ar wahan i gyfeirio at lywodraeth Carwyn Jones a'r ffaith mai Aneurin Bevan a gychwynnodd yr NHS, doedd fawr ddim cyfeiriadaeth Gymreig o gwbl yn ei anerchiad heddiw.

Dim cydnabyddiaeth ei fod mewn gwlad yn ei hawl ei hun, dim cyfeiriad o gwbl at y Gymraeg nag unrhyw son am strategaeth ei gyfeillion yng Nghaerdydd i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Os mai dirmyg a welwyd at y Gymraeg ar Newsnight, diffyg unrhyw gydnabyddiaeth o'r iaith o gwbl a gafwyd gan Corbyn heddiw.

Y tristwch heddiw oedd sylwi nad oedd hyn fel petai'n mennu fawr ddim ar y cefnogwyr ddaeth ynghyd i wrando arno. A hynny bron i 20 mlynedd ers i Gymru gael ei llywodraeth ei hun, a'i llais ei hun am y tro cyntaf ers canrifoedd.  Ond debyg bod eu hamgylchiadau byw a'u pryderon gwirioneddol am y dyfodol yn cyfrif llawer iawn mwy yn eu golwg hwy nag unrhyw sen cenedlaethol.

Y gwir amdani ydi bod yna lawer iawn o bobl ym Mangor a Chymru ei hun sy'n despret i weld newid yn digwydd a Corbyn ydi'r un sy'n ymddangos fwyaf tebygol o gyflawni hynny heddiw.

O gofio bod y dyn hwn wedi bod ar ymylon y Blaid Lafur am gyfran helaeth o'i oes fel gwleidydd, yn brwydro'n barhaus yn erbyn yr elfennau, mae'r newid byd yn ei hanes yn gwbl ryfeddol.

Mae stori Moses yn ymlafnio gyda'r Israeliaid pengaled yn yr anialwch am 40 mlynedd yn un cyfarwydd inni yma yng Nghymru. Bu Jeremy Corbyn hefyd yn ymlafnio hefo unigolion pengaled iawn o fewn y Blaid Lafur am genhedlaeth gyfan, pobol a dybiai mai efelychu'r Blaid Geidwadol oedd yr unig ffordd i gael y maen i'r wal yn etholiadol.

Erbyn hyn fodd bynnag, mae'r rhod wedi troi a Llafur wedi dychwelyd at ei gwreiddiau. Ac mae'n amlwg, hyd yn oed yn un o gadarnleoedd y mudiad cenedlaethol yng Nghymru, mae yna lawer o bobl yn Arfon sy'n fodlon rhoi un cynnig arall ar Lafur.

Pe bai Llafur yn dewis ymgeisydd lleol, Cymraeg ar gyfer yr etholiad nesaf, a'r etholiad hwnnw yn digwydd pan fo'r momentwm cyhoeddus hwn dal gan Corbyn, dydi o ddim yn amhosib o gwbl y gallan nhw ei chipio.  

Ond wedyn, gwyddom na chafodd Moses ei hun weld Gwlad yr Addewid er gwaethaf ei holl ymdrechion a'i holl waith dros genedl yr Iddewon.

Er cystal yw'r rhagolygon ymddangosiadol heddiw, tybed ai dyna hefyd fydd tynged Jeremy Corbyn yntau.

Wedi'r cwbl mae'r holl rwygiadau a'r ymraniadau ynghlwm wrth bwnc na chafodd fawr ddim sylw o gwbl ganddo heddiw-Brexit- yn dal i eistedd fel eliffant anferth ar garreg drws Y Blaid Lafur llawn cymaint a'r Blaid Geidwadol hithau.

Berig mai eliffant fydd yn gwasgu'r arweinwyr sy'n ddigon anffodus i fod wrth wrth y llyw gwleidyddol  heddiw yn slwts yw'r eliffant hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Gall Arfor arfogi'r Gorllewin Cymraeg o'r newydd

SIOM cherw i lawer oedd gweld cynghorwyr lleol yn pleidleisio o blaid Cynllun Datblygu Mon a Gwynedd yn ddiweddar, a fydd yn gweld codi miloedd o dai newydd yn y siroedd hyn dros y blynyddoedd nesaf.

Serch hynny, mae'n ymddangos bod yr adwaith cyhoeddus ffyrnig i'r cynllun datblygu wedi sbarduno syniadau newydd a radical- ac mae hynny'n sicr i'w groesawu'n fawr.

Mae Adam Price, AC Plaid Cymru Dinefwr,  bellach wedi ail-gyflwyno ei syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg( Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin)- gyda chefnogaeth Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian.

Byddai awdurdod o'r fath yn gyfrifol am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a'r iaith gyda'i gilydd ar draws siroedd y Gorllewin. Byddai rhychwant ei ddyletswyddau hefyd yn cynnwys elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Mae'r syniad yn hynod o amserol gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu tri rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd, defnydd tir a thrafnidiaeth cyn hir, sef Gogledd Cymru, Canolbarth a De Orllewin Cymru a'r De Ddwyrain.

Gan fod yr ad-drefnu hwn yn yr arfaeth beth bynnag, mae syniad ARFOR yn gynnig cynhyrfus a phell-gyrhaeddol sy'n haeddu derbyn ystyriaeth deilwng gan y Llywodraeth, yn enwedig o gofio eu bod newydd gyhoeddi eu cynlluniau i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bid siwr, bydd rhai yn dadlau bod elfen ymrannus am y syniad ac y byddai'n effeithio ar Gymreictod gweddill Cymru- adlais o'r hen ddadleuon a wyntyllwyd yn ystod y saithdegau wrth gwrs. Ond y gwir amdani ydi bod y syniad o Gymru fel endid daearyddol llawer cryfach bellach a'r hunaniaeth Gymreig ei hun hefyd yn llawer sicrach na'r hyn a fodolai yn y saithdegau.

Mae'r synnwyr o berthyn i Gymru yn ddigon gwydn erbyn hyn i allu ymdopi gyda'r ffaith ddiymwad fod Cymru'n wlad amrywiol, a bod angen atebion gwahanol ar gyfer rhannau gwahanol o'n gwlad erbyn hyn.

Byddai gwireddu ARFOR hefyd yn fodd o ddaearu bwriad y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn syniad cwbl ddiriaethol: sef dyrchafu'r Gymraeg yn brif iaith cyhoeddus mewn talp o dir ble mae'r Gymraeg yn parhau'n iaith bob dydd i drwch y bobol sy'n byw yn yr ardaloedd hyn.

Y perig hefo strategaeth y Llywodraeth fel mae'n sefyll ydi ei bod yn rhagdybio'n hygoelus y bydd modd cynhyrchu'r holl siaradwyr Cymraeg newydd hyn trwy'r system addysg a thrwy greu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ond mae holl dystiolaeth y blynyddoedd diwethaf yn dangos mai tua 10-15% yn unig o ddisgyblion Ysgolion Cymraeg( mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith) sy'n cynnal eu sgiliau Cymraeg wedi gadael yr ysgol, oherwydd y diffyg cyfleoedd beunyddiol i ymarfer yr iaith yn y gymdeithas o'u cwmpas.

Mae cymdeithasegwyr iaith cyfoes yn gwbl gytun nad yw'r system addysg yn ddigon ynddo'i hun i gynnal a datblygu iaith lleiafrifol; mae'n rhaid wrth droedle daearyddol bendant ble mae'r iaith honno yn gallu anadlu'n rhydd a bod yn feistres ar ei thomen ei hun. Mae'n ddiddorol iawn bod yr ymchwil diweddaraf yn y maes yn pwyso'n gynyddol ar drosiadau o'r byd amgylcheddol o ran mynd ati'n fwriadol i greu amodau ble gall iaith leiafrifol wreiddio a ffynnu fel blodyn neu blanhigyn, a'i gwarchod rhag ormod o wyntoedd croesion.

Byddai sefydlu ARFOR yn fodd o greu gwrth-bwynt deinamig i holl atyniadau dinesig Caerdydd, sydd wedi hudo miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg ifanc y gorllewin ers dwy genhedlaeth bellach gan dlodi eu cymunedau cynhenid o'u doniau, eu hyder, eu gobaith a'u dyfodol.

Wrth ymdrin gyda'r Gorllewin Cymraeg fel un endid daearyddol, byddai'r Awdurdod newydd yn gallu uno cymunedau Cymraeg o Ynys Mon i Lanelli gyda'i gilydd,  cynnig identiti clir, pwrpasol a hyderus iddynt, a hynny yn ei dro yn rhoi statws a dylanwad newydd iddynt yng Nghymru heddiw.

Eisoes, fe ellid dadlau mai yn y Gymru Gymraeg y mae'r creadigrwydd a'r bwrlwm diwylliannol yn y Gymru gyfoes- roedd yr Eisteddfod Genedlaethol sydd newydd ddod i ben ym Mon yn brawf pellach o hynny. Byddai ARFOR yn fodd o harnesu'r creadigrwydd hwn a'i sianelu i gyfeiriad sydd wedi bod ar goll yn y gorllewin cyhyd- datblygiad economaidd, ffynniant a hunan-hyder.  Byddai hyn wedyn yn gallu gwneud yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yn gynyddol apelgar i'r Gymru Ddi-Gymraeg, a chynyddu cyrraedd y Gymraeg o'r gwraidd i fyny.

I aralleirio un o sloganau enwocaf Bill Clinton: "It's the culture, stupid." Hynny ydi, rhaid gweld bod creadigrwydd diwylliannol yn gallu arwain at ffynniant cymdeithasol ac economaidd. Mae pobl sydd yn hyderus yn eu diwylliant eu hunain yn llawer mwy tebygol o gredu y gellid trosglwyddo'r hyder hwn i'w cymdeithas a'u heconomi a chreu mentrau a busnesau newydd o bob math. Yn hytrach na bod yn rhwystr fel yr awgrymwyd mewn modd mor nawddoglyd a di-ddeall ar raglen Newsnight yr wythnos hon, y gwir amdani ydi y gall diwylliant Cymraeg y Gorllewin arwain at adfywiad a datblygiad economaidd gan ffurfio cylch rhinweddol ar gyfer y dyfodol.

Gallai Awdurdod fel hyn hefyd edrych o'r newydd ar y rhagamcanion o ran codi tai yn y siroedd dan sylw a cheisio sicrhau bod y ffigyrau hyn yn cael eu haddasu i ateb gwir anghenion yr ardaloedd hyn: gan gynnwys llawer mwy o dai fforddadwy a thai ar rent hefyd yn cael eu codi ar gyfer y boblogaeth gynhenid.

Un syniad diddorol y gallai ARFOR ei ystyried ar gyfer siroedd y gorllewin yw Treth Dwristiaeth. Mae treth fel hon eisoes ar waith yn Efrog Newydd a Pharis er mwyn amddiffyn a chynnal gwasanaethau lleol yn wyneb y pwysau mawr arnynt yn sgil twristiaeth. Mae Maer Llundain, Saddiq Khan ar fin cyflwyno treth debyg yn Llundain( tua £2.00 ar ben cost pob arhosiad unigol mewn gwestai yn y ddinas) a fydd yn codi £100 miliwn y flwyddyn. Byddai treth debyg yn y Gorllewin yn debyg o godi rhwng £5 miliwn a £10 miliwn o bunnau, allai gael ei ddefnyddio i hybu'r economi leol mewn ffyrdd dychmygus ac atal yr allfudiad o bobl ifanc sy'n gymaint o broblem ar hyn o bryd. 

Mae'n hen bryd troi twristiaeth i'n melin ein hunain a mynnu bod mwy o fuddiant gwirioneddol i'n cymunedau yn deillio o'r ffaith fod cymaint o bobl o bob rhan o'r byd yn mwynhau dod i weld y tirlun arbennig sydd gennym yn y gorllewin.  Go brin bod £2 ychwanegol pob nos ar gost eu hymweliadau  yn debyg o'u rhwystro rhag dod i weld rhyfeddodau naturiol yr ardaloedd hyn.

Mater i eraill yw penderfynu sut yn union y byddai ARFOR yn gweithio'n ymarferol, ond un opsiwn yw sefydlu awdurdod o tua 60 aelod( 15 o bob sir presennol), a fyddai'n gyfrifol am osod trywydd strategol i'r 4 sir i'w dilyn.Byddai'r Awdurdod wrth gwrs yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan osod esiampl i holl gyrff yr ardaloedd hyn yn eu tro.

Gallai sefydlu'r Awdurdod olygu lleihau rhai o ddyletswyddau y cynghorau sir presennol gan mai asiantaethau cyflwyno'r cynlluniau penodol yn eu siroedd eu hunain a fydden nhw mewn gwirionedd ( gan arwain at docio niferoedd y cynghorwyr sir). Efallai hefyd dros amser y gellid grymuso rol cynghorau cymuned lleol i fonitro a scriwtineiddio cynlluniau'r awdurdod wrth iddynt gael eu gweithredu yn y gwahanol gymunedau.

Y wyneb yr holl fygythiadau i'r  Gorllewin Cymraeg o ran patrymau allfudo ac ymfudo, ac oblygiadau Brexit yn debyg o waethygu pethau: mae gwir angen atebion radical arnom.

Mae ARFOR yn ymateb Cymreig a chreadigol i'r bygythiadau hyn a gobeithio y gwelwn ymchwydd o gefogaeth i'r syniad hwn o bob cyfeiriad

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwynedd Gydymffurfiol yn dweud cyfrolau amdanom

FEL Cenedl Anghydffurfiol y daeth y Gymru fodern i fodolaeth i bob pwrpas.

Arweiniodd y Diwygiadau Methodistaidd yn y 18ed ganrif at ddeffroadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pell-gyrrhaeddol yn eu tro. Gan sefydlu'r syniad sylfaenol hwnnw fod gan Gymru ei meddwl ei hun ar bethau, oedd yn amlach na pheidio yn tynnu'n groes i'r meddylfryd Prydeinig. Mae'r gred honno wedi ei chynnal a'i hanwylo gan genhedlaethau o Gymry ar hyd y blynyddoedd hyd heddiw.

Ond tybed ai fel cenedl gydymffurfiol y dylid meddwl am y Gymru gyfoes mewn cymaint o ffyrdd gwahanol erbyn hyn? Boed hynny ar ffurf y gred hynod boblogaidd hon nad oes gan ffydd ddim oll i'w ddweud wrthym yn y byd cyfoes, neu'r dybiaeth gyffredinol nad oes llawer iawn y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd i newid trefn sylfaenol ein cymdeithas yma neu hyd yn oed o ran yr obsesiwn gyda thechnoleg newydd o bob math- mae cydymffurfio bellach fel petai wedi ein meddiannu ni gorff ac enaid.

Ac mi roedd yr ysbryd cydymffurfiol hwn yn sicr ar waith ddoe yn Siambr Cyngor Sir Gwynedd, wrth i gynghorwyr y sir drafod y Cynllun Datblygu newydd( sy'n cyfateb i 8,000 o dai newydd i Wynedd a Mon rhwng 2011 a 2026.)

Nid yn gymaint yng nghanlyniad y bleidlais ei hun, gan fod 30 o gynghorwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi pleidleisio yn ei erbyn, gan godi cwestiwn go fawr am hyfywedd y cynllun ar ei ffurf bresennol mewn gwirionedd.

Ond roedd y cydymffurfiad yn hytrach i'w weld yn y dadleuon craidd a ddefnyddiwyd gan y rhai hynny oedd o blaid y cynllun datblygu: aelodau cabinet y cyngor sir gan fwyaf.

Er y proffesu taer o blaid y Gymraeg a'i ffyniant hi oedd yn rhagflaenu bron pob un araith ganddynt: chafwyd yr un ddadl yn sgil hyny oedd yn argyhoeddi dyn y byddai'r cynllun datblygu yn gwneud LLES i'r Gymraeg yn y sir. Roeddwn yn disgwyl i ambell un geisio'n hargyhoeddi y byddai'r tai newydd yn allweddol, wrth er enghraifft, ddenu Cymry alltud yn ol i Wynedd i gychwyn busnesau ac ati, ac y byddai hynny yn ei dro yn helpu tuag at gyflawni un o bolisiau strategol pwysicaf y Cyngor Sir, sef codi canran siaradwyr Cymraeg y sir o 65% i 70% erbyn 2021. Ond na, chafwyd dim ymdrech o gwbl i geisio cyflwyno narratif i'r perwyl hwn.

Y neges greiddiol a gafwyd ganddyn nhw yn ei hanfod oedd: ylwch bois- does gynno ni ddim dewis ond cydymffurfio hefo gofynion yr Arolygiaeth Gynllunio fan hyn.

Codwyd sawl bwgan gan aelodau'r Cabinet yn ystod y trafod, megis y byddai gwrthod y cynllun datblygu yn golygu y gallai Llywodraeth Lafur Cymru ei berchnogi'n llwyr a'i weithredu o Gaerdydd, neu hyd yn oed ddanfon comisiynwyr i mewn i redeg Cyngor Gwynedd yn uniongyrchol. Soniwyd hefyd sut yr oedd datblygwyr yn llyfu'u gweflau wrth feddwl am sefyllfa lle na fyddai cynllun datblygu yn ei le yn y sir.

Ac fe roddwyd pwys mawr ar farn wrthrychol yr Arolygydd Cynllunio ynghylch "cadernid" y cynllun: heb unrhyw synnwyr o ba mor hurt oedd hyn yn swnio o gofio eu bod yn son am Arolygydd na wyddai'r un dim am ystyr arwyddair y cyngor sef "Cadernid Gwynedd", heb son am hanes y sir dros y canrifoedd a roddodd fodolaeth i'r arwyddair hwn.

Bron nad oedd yr aelodau cabinet a siaradodd yn y siambr pnawn ddoe yn cyflwyno'u hunain fel gweinyddwyr yn hytrach na gwleidyddion. Hynny ydi, eu bod yn gweld eu rol bellach fel quasi-swyddogion sydd yno i weithredu'r hyn a gaiff ei wthio arnynt yn hytrach na chofio eu bod wedi eu hethol i wleidydda dros bobl Gwynedd yn anad un peth arall.

Mae lle i ddadlau bod y system gabinet wedi hwyluso'r broses hon, gydag aelodau'r cabinet bellach yn treulio mwy o amser yn y cyngor yng nghwmni swyddogion nag ydyn nhw yng nghwmni eu cyd-gynghorwyr, a bod yr hen berthynas hyd-braich traddodiadol( a llesol) rhwng cynghorwyr a swyddogion wedi hen ddiflannu. Mae'n gwyn gyffredin iawn gan drwch cynghorwyr o bob lliw gwleidyddol bellach eu bod hwy wedi eu hymylu'n llwyr yn y broses hon.

Ac wrth gwrs, mae gweinyddwyr wastad yn iawn. Roedd hi'n drawiadol iawn ddoe pa mor gwbl argyhoeddedig oedd Dafydd Meurig( Portffolio Cynllunio) a Dyfrig Siencyn( Arweinydd y Cyngor) mai nhw oedd yn IAWN. Doedd dim gronyn o amheuaeth gan y naill na'r llall am rinweddau a rhagoriaeth y cynllun datblygu:  fel pob gweinyddwr gwerth ei halen, roeddan nhw wedi llwyr berchnogi a chredu eu sbin eu hunain.  Bron oeddech chi'n teimlo mai dadlau dros eu hygrededd a'u didwylledd hwy eu hunain fel unigolion oeddan nhw yn y bon, yn hytrach na dadlau'n wrthrychol am y cynllun ei hun. Trystiwch ni hogia oedd eu ple gan ddwyn i gof yr arch-berswadiwr hwnnw, y cyn Brif Weinidog Tony Blair cyn iddo fynnu ei le ar lwyfan y byd nol yn 2003.

Roedd hi'n eironig iawn mai aelod o'r Blaid Lafur, sef Sion Jones o Bethel a gyflwynodd un o'r areithiau gorau yn y siambr ddoe: araith oedd mewn gwirionedd yn chwa o awyr iach o'i gymharu gyda sbin y gweinyddwyr a gyfeiriwyd ato uchod. Dywedodd ei fod yn gwybod yn iawn ei fod yn mynd yn groes i ewyllys ei blaid wrth wrthwynebu'r cynllun datblygu ond bod dyfodol y Gymraeg yn bwysicach iddo na'i les gwleidyddol ei hun.

Ymhellach, fe gyflwynodd un o'r pwyntiau pwysicaf yn yr holl drafodaeth: sef y dylai'r Cyngor Sir fod wedi pwyso am sicrhau statws ieithyddol arbennig i Wynedd a Mon fel rhan o'r drefn gynllunio yng Nghymru o gofio mai dyma'r unig ddwy sir lle mae'r iaith Gymraeg yn parhau'n iaith fyw a chymunedol ar raddfa eang. Ond na, ddaeth hi ddim i feddwl y "gweinyddwyr" i geisio ymladd dros hynny.  

Mae'r clefyd gweinyddu a chydymffurfio yn hytrach na gwleidydda a  chwestiynu yn bla yn y Gymru gyfoes erbyn hyn. Efallai'n wir fod y duedd hon yn deillio nol i gychwyn datganoli ei hun pan benderfynodd Plaid Cymru bod rhaid sefydlogi a diogelu dyfodol y Cynulliad Newydd trwy estyn pob cymorth posib i'r Blaid Lafur. Mae'r gefnogaeth hon i Lafur a helpu Llafur i "weinyddu " Cymru wedi bod yn elfen gyson yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y 17 mlyned diwethaf: a'r gweinyddu dof yma yn ei dro yn un o'r rhesymau pam y mae datganoli wedi profi'n gymaint o siomedigaeth.

Yn waeth na hynny, mae'r broses hon bellach wedi troi'n nodwedd genedlaethol gwaetha'r modd.  Clywir byth a beunydd am "weinyddu" cynlluniau addysgol, "gweinyddu" newidiadau mewn arferion cynghorau sir, "gweinyddu" ein gwasanethau iechyd mewn amryfal ffyrdd a "gweinyddu'r" ychydig o ddatblygiadau economaidd sy'n digwydd yma. Ac mae'r nifer fawr o weinyddwyr sydd yn gorfod bod ynghwm wrth yr holl brosesau uchod yn brawf pellach o'r ffenomena hon. Mae'r holl bwyslais ar weinyddu yn ein bywyd cyfoes yn amlach na pheidio yn arwain at gydymffurfiad: dyna holl natur y bwystfil. Ac mae cydymffurfiad yn y sefyllfa sydd ohoni yn ddamniol mewn cymaint o ffyrdd.

Mae'n berffaith amlwg bellach mewn myrdd  o feysydd gwahanol ym mywyd Cymru mai ysbryd anghydffurfiol newydd sydd ei angen arnom.

Pwy a'n gwaredo o glwy y Gweinyddu?!

 

   

 

 

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Cecru Conwy yn codi cwestiynau lleol a chenedlaethol

ROEDD y ffrae ynghylch pwy allai eistedd ar Gabinet Cyngor Conwy yr wythnos hon yn dweud cyfrolau am y ddeinameg wleidyddol bresennol yng Nghymru.

Roedd y Cyn-Aelod Cynulliad Gareth Jones yn gobeithio arwain clymblaid yn enw Plaid Cymru i redeg Cyngor Conwy a fyddai'n cynnwys aelodau Ceidwadol a'r Annibynnol.

Ond, fe benderfynodd Swyddfa Ganolog Plaid Cymru rwystro hyn rhag digwydd gan nad oedden nhw am weld Plaid Cymru yn cael eu gweld yn cyd-weithio gyda'r Ceidwadwyr yng Nghymru ar unrhyw gyfrif.

Bellach mae Gareth Jones a Liz Roberts wedi ymddiswyddo o Blaid Cymru er mwyn galluogi'r trefniant Cabinet i fynd yn ei flaen o dan arweinyddiaeth Annibynnol, a grwp Plaid Cymru ar y Cyngor bellach i lawr i 8 aelod.

Barn arweinyddiaeth Plaid Cymru oedd y byddai cysylltiad gyda'r Ceidwadwyr yn niweidiol i ddelwedd y blaid ac i'w gobeithion etholiadol pe bai etholiad arall yn cael ei alw y flwyddyn hon. Ac ar sawl ystyr, mae'r farn hon yn ddealladwy iawn. Wedi'r cwbl, mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi gosod ei stondin bersonol gwrth-doriaidd a gwrth-lymder allan yn berffaith amlwg i bawb dros y blynyddoedd diwethaf.

A gyda'r ymchwydd mawr diweddar o blaid Llafur yng Nghymru, a fu'n rhannol gyfrifol am sicrhau nad oes gan y Ceidwadwyr fwyafrif seneddol yn San Steffan, mae yna ystyr arall i'r Wal Goch Gymreig erbyn hyn y tu hwnt i lwyddiannau'r tim pel-droed cenedlaethol yn yr Euros llynedd.

Mae'n amlwg bod y momentwm hwn o blaid Llafur yng Nghymru( boed hynny'n bennaf trwy ymdrechion Carwyn Jones neu/a thrwy boblogrwydd Jeremy Corbyn) wedi chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniad Plaid Cymru yn ganolog. Mae'n fodd i gynnal y syniad poblogaidd hwn mai gwlad y chwith ydi Cymru, a bod Plaid Cymru hithau ar ochr iawn y ddadl foesol hon yn wleidyddol.

Ac os digwydd etholiad arall yn yr Hydref, mae'n hawdd gweld sut y byddai'r Blaid Lafur Gymreig yn defnyddio unrhyw gysylltiad hwn gyda'r Toriaid fel pastwn cyfleus iawn i golbio Plaid Cymru mewn etholaethau megis Arfon, Ceredigion a Chaerfyrddin, a chryfhau eu neges mai nhw yw gwir blaid genedlaethol Cymru bellach.

Bu Gareth Jones yn Aelod Cynulliad arbennig dros Plaid Cymru, ac wrth gwrs mi roedd ennill Aberconwy dros y Blaid yn y lle cyntaf yn andros o gamp ynddo'i hun. Mae'r ffaith ei fod o wedi gorfod ymddiswyddo yn golled fawr i'r Blaid ac yn loes calon i nifer fawr o'r selogion sy'n gwybod yn iawn am gyfraniad nodedig y gwr o Landudno dros lawer o flynyddoedd.

Ond realpolitik ydi realpolitik yn enwedig yn yr amgylchiadau sydd ohoni. Yn llawer trech na record Gareth Jones dros y blynyddoedd ac yn drech hefyd na'r weledigaeth oedd ganddo ar gyfer llywio'r dyfodol i Gonwy gyda chabinet o dan arweiniad Plaid Cymru.

Mae'r hanes yn codi nifer o gwestiynau pwysig ynghylch cydnabod dewisiadau pobl ar lefel leol a chenedlaethol. Rhaid cofio bod miloedd o Gymry wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr Etholiadau Lleol yn Sir Conwy y mis diwethaf am amryfal resymau. Mae yna berig bod dogma bleidiol sy'n dweud bod y Ceidwadwyr megis math o wahanglwyfion gwleidyddol nad oes dichon gwneud yr un dim gyda nhw yn fodd i baentio llawer iawn o unigolion gwahanol trwy Sir Conwy gyda'r un brws. Ydi'n wir i ddweud fod pob un o'r rhain yn llwyr gymeradwyo holl bolisiau'r Ceidwadwyr yn San Steffan? Ydi hi'n bosib o gwbl bod yna ganran go lew ohonynt yn hytrach wedi pleidleisio dros ymgeisydd yr oeddan nhw'n ei adnabod yn bersonol ac yn credu ei fod wedi gwneud tro da o waith dros eu cymuned ar y cyngor sir dros y pedair blynedd diwethaf?

Rhaid cofio hefyd bod y ganran o bobl sy'n perthyn i bleidiau gwleidyddol yng Ngwledydd Prydain yn bitw bach erbyn hyn er cymaint yr ymchwydd ifanc o blaid Jeremy Corbyn yn yr etholiad- sef tua 5%. Mi fydd llawer iawn o'r bobl sydd y tu hwnt i'r bybl bach gwleidyddol hwn yn methu deall pam nad yw pleidiau yn gallu cyd-weithio gyda'i gilydd ar lefel leol, yn enwedig o feddwl am yr heriau ariannol anferthol sy'n wynebu cynghorau lleol yn wyneb y toriadau o San Steffan. Onid oes rhaid wrth gyd-weithio ar lefel na welwyd ei debyg o'r blaen ar ein cynghorau lleol er mwyn delio gyda'r sefylllfa hon?

 Mae yna gwestiynau'n codi ar lefel genedlaethol hefyd. Mae gan y Ceidwadwyr bleidlais graidd o tua 25% yng Nghymru.  Os ydi Cymru fyth am weld llywodraeth genedlaethol sy'n rhydd rhag Y Blaid Lafur sydd wedi rheoli Cymru ers 1999,  ac wedi methu ein gwlad mewn cymaint o ffyrdd gwahanol dros cyfnod hwn, mae'n ymddangos mai'r unig opsiwn arall ydi gweld ryw fath o ddealltwriaeth rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr- yn enwedig o gofio fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi chwythu'u plwc yng Nghymru bellach. Anathema i lawer mi wn. Ond o ran lles democratiaeth Gymreig yn unig, siawns y byddai'n llesol i Lafur fod mewn gwrthblaid rhywbryd er mwyn iddyn nhw gael ail-ddiffinio eu hunain a meddwl am syniadau newydd i'r dyfodol. Dydi bod mewn grym yn ddi-dor am gymaint o flynyddoedd ddim yn llesol iddyn nhw, i'r pleidiau eraill na'r etholwyr chwaith. Does ryfedd bod cymaint o bobl yng Nghymru wedi eu dieithrio o'r broses wleidyddol yma o weld Llafur yn eistedd fel math o lyffant di-symud ar ein bywyd cenedlaethol.

Fel ymateb i hyn, tybed a fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio datblygu agenda fwy Cymreig yn y dyfodol,fel yr awgrymodd yr AC Darren Millar yn dilyn yr etholiad diweddar. Ar hyn o bryd, mae'n anodd dychmygu'r Blaid yn dianc rhag ei hymlyniad greddfol at yr Undeb Brydeinig o gofio bod hwnnw cymaint rhan ohonynt a'u byd-olwg cyffredinol. Ac wrth gwrs, byddai'r amheuaeth ddofn ohonynt fel plaid sydd wedi'i hen blannu yma yng Nghymru yn dilyn eu hanes yn ein gwlad dros y blynyddoedd wastad yn groes y bydd rhaid iddyn nhw ei gario.

Ond wedi son yn gynharach am draddodiad y chwith yma yng Nghymru, neu'r traddodiad llafur a rhoi ei enw cywir arno, rhaid cydnabod hefyd bod traddodiad ceidwadol gydag g fach yn bodoli yma hefyd  a gwreiddiau yr un mor wydn gan y traddodiad hwn hefyd.   Gyda dyfodiad system bleidleisio newydd i Etholiadau'r Cynulliad yn 2020, allai gyflwyno trefn STV( a fyddai'n golygu y byddai pob un pleidlais yn cyfrif), mae'n bosib y gellid gweld pleidiau cwbl newydd yn ymffurfio ar gyfer hwnnw. Tybed a fyddai plaid lled-geidwadol gwirioneddol Gymreig yn gallu ymddangos o'r newydd i geisio manteisio ar y tradddodiad hwn? Plaid heb unrhyw "faggage" o'r gorffennol. Yn gwbl rydd o'r Blaid Geidwadol Brydeinig. Plaid a fyddai'n gosod pwyslais ar bwysigrwydd y teulu, rhwydweithiau cymunedol, traddodiad a threftadaeth, hunan-ddibyniaeth ac entrepreneuriaeth, ac economi lewyrchus.

Mae pleidiau o'r math hwn i'w gweld ymhob gwlad dan haul, gan gynnwys llawer iawn o wledydd bychain tebyg i Gymru. Byddai unrhyw ddatblygiad i'r cyfeiriad hwn yn gallu ychwanegu at bliwraliaeth a democratiaeth yng Nghymru.

Bydd stori Conwy a'i holl oblygiadau i Gymru yn rhedeg am beth amser eto siwr o fod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Etholiad wyneb i waered yw'r Etholiad rhyfedd  hwn

GYDA dyddiau'n unig yn weddill bellach yn yr Etholiad Cyfredinol, teg byddai mentro dweud mai dyma'r etholiad mwyaf bizarre a welwyd ym Mhrydain ers blynyddoedd mawr.

Ar gychwyn yr ymgyrch, roedd hi'n ymddangos mai cael ei choroni yn hytrach na chael ei hethol fyddai tynged y Prif Weinidog Theresa May, gyda'r polau piniwn yn rhoi mantais sylweddol o 20 pwynt a mwy iddi dros arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Gyda May yn destun lled-addoliaeth cyhoeddus ar y dechrau o'i gymharu gyda'r canfyddiadau cyffredinol negyddol am Corbyn,  a 200 o'i aelodau seneddol ei hun yn wrthwynebus iddo, y dybiaeth gyffredinol oedd y byddai'r ymgyrch yn un o'r rhai mwyaf unochrog a diflas erioed. Ond, mae geiriau Harold Wilson " A week is a long time in politics" yn ymddangos yn fwy proffwydol nag erioed heddiw.

Pwy mewn difri calon a ddychmygai y byddai Corbyn yn profi'n ymgyrchydd mor ddygn ac egniol ac yn ennill yr ymgyrch ei hun beth bynnag fydd y canlyniad dydd Iau nesaf? Gyda ambell bol piniwn yn dangos fod rhai o'i bolisiau sylfaenol megis adfer addysg prifysgol rhad ac am ddim, gwladoli'r rheilffyrdd a chychwyn trethu pobl o'r newydd ar drothwy o £80,000 y flwyddyn yn hynod boblogaidd, mae Corbyn wedi llwyddo i gipio'r dychymyg cyhoeddus mewn modd na welwyd yng ngwleidyddiaeth Gwledydd Prydain ers 20 mlynedd a mwy. I raddau mae Corbyn wedi gallu troi etholiad am Brexit yn etholiad am faterion bara a chaws ac mae hynny'n sicr yn fanteisiol iddo.

A phwy fyddai'n meddwl y byddai Theresa May yn cynnal ymgyrch mor drybeilig o sal, yn gwneud sawl tro pedol a diethrio rhai o'i chefnogwyr craidd selocaf gyda'i pholisi o werthu tai pobl yn gyfnewid am ofal cartref? Ac wrth gwrs, roedd ei phenderfyniad i beidio cymryd rhan yn nadl yr arweinwyr ar  y teledu  hefyd yn fodd i gynyddu'r teimlad cyhoeddus mai arweinydd gwan a di-asgwrn cefn yw Theresa May mewn gwirionedd, yn gwbl groes i'r mantra hwnnw am fod yn arweinydd cryf a sefydlog.

Pwy fyddai'n rhagweld y byddai pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, a hwythau mor obeithiol o fanteisio ar y 48% a bleidleisiodd o blaid aros yn yr UE y llynedd, yn cael ei chwalu i'r ffasiwn raddau? Mae'n nodwedd od mewn etholiad hynod od,  bod yr unig blaid sy'n sefyll yn gadarn yn erbyn gadael yr UE ac a fyddai wedi disgwyl dibynnu ar gefnogaeth hyd at hanner y boblogaeth, wedi cael eu gwasgu cymaint gan y pleidiau eraill.

 A phwy fyddai'n dychmygu am funud y gallai plaid genedlaethol Yr Alban , yr SNP, fod mewn sefyllfa i fod yn rhan o glymblaid yn Llundain pe bai'n senedd grog ddydd Iau? A fyddan nhw'n barod i ffeirio'r nod o annibyniaeth er mwyn cael rhannu grym yn Llundain?!!  Cur pen posib i Nicola Sturgeon ond a fyddai hi mewn difrif yn gallu gwrthod cynnig felly a hithau'n wleidydd mor ardderchog sydd ben ac ysgwyddau uchben pob gwleidydd arall yn yr ynysoedd hyn bellach? Ai hi yw'r un i achub Ynys Prydain rhag Brexit dinistriol?

Mae'r etholiad hwn fel petai wedi troi popeth wyneb-i-waered dros yr wythnosau diwethaf. Mae'n ddigon i chwalu pen dyn yn llwyr- ac mae yna wythnos i fynd o hyd!

Ond, mae'n bosib mai'r digwyddiad sydd wedi cael yr effaith mwyaf ar yr ymgyrch hyd yma yw'r bomio dychrynllyd a ddigwyddodd ym Manceinon( gyda digwyddiad tebyg hefyd yn Llundain dros y Sul). Rhoddodd y bomio derfyn ar unrhyw obeithion oedd gan y Ceidwadwyr i redeg ymgyrch ymffrostgar, gung-ho Brecsitaidd gan gorddi teimladau yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd gan y byddai hynny yn gwbl amhriodol o dan yr amgylchiadau. Ymhellach, roedd y digwyddiad hwn yn fodd i daflu goleuni o'r newydd ar nifer o fethiannau sylfaenol yn yn ystod teyrnasiad Theresa May fel Ysgrifennydd Cartref. Yn sylfaenol, roedd y bomio'n gyfrwng i ddangos y gwirionedd am Brydain heddiw: lle bregus, ofnus, ansicr a di-gyfeiriad.

Tybed a yw'r bomio wedi dwysau'r teimlad hwnnw sydd wedi bod yn cyniwair ym meddwl  cyhoedd dros y misoedd diwethaf mai gambl anferthol a naid i'r tywyllwch yw Brexit yn y bon, ac mewn sefyllfa felly eu bod wedi penderfynu yn eu doethineb mai senedd grog fyddai'r canlyniad gorau i bawb ddydd Iau nesaf? Efallai mai'r synnwyr bellach yw y byddai clymblaid sy'n cynnwys tri neu bedwar o arweinwyr yn llawer mwy tebygol o geisio datrysiad cymodlon, synhwyrol, a rhesymol gyda'r Undeb Ewropeaidd na gadael y cwbl yn nwylo sigledig Theresa May.

 Wrth gwrs, mae eraill yn wfftio'r polau piniwn diweddaraf gan amau bod yna rymoedd tywyll ar waith yma er mwyn manipiwleiddio'r farn gyhoeddus a dychryn cefnogwyr traddodiadol y Ceidwadwyr i droi allan ddydd Iau er mwyn rhwystro Jeremy Corbyn. Beth bynnag am hynny, mae greddf a phrofiad yn dueddol o ddweud wrth ddyn ei bod hi'n annhebyg iawn y bydd "Middle England"- y bloc anferthol ceidwadol hwnnw sy'n penderfynu pob etholiad cyffredinol- yn troi cefn ar Theresa May ddydd Iau. Ond wedyn, pwy a wyr erbyn hyn a ninnau'n byw mewn cyfnod mor gyfnewidiol ac ansicr.

Mae'n debyg y bydd y canlyniad yn dibynnu'n llwyr ar faint o gefnogwyr y ddwy brif blaid a gaiff eu sbarduno i fynd i bleidleisio ddydd Iau. Mae ystod canrannau cefnogaeth y Ceidwadwyr mewn polau dros yr wythnosau diwethaf yn amrywio o 42% i 49% o'r etholwyr a chanrannau Llafur yn amrywio o 33% i 38%. Gyda'r ffasiwn ystod hwn, gallai mantais y Ceidwadwyr mewn seddi fod yn 120 ar y naill law neu fe alle nhw golli eu mantais seddau yn llwyr(Colli 12 sedd+ a chymryd y bydd Llafur yn cadw gafael ar eu seddau presennol) ar y llaw arall. Pe bai Llafur yn gallu cyrraedd 38%, byddai hynny'n fwy na thebyg yn gwarantu senedd grog.

 Yn y model a ddefnyddiwyd gan Yougov i fesur y pleidleiswyr hyn, rhagwelir y bydd 51% o bobl ifanc rhwng 18 a 25 yn troi allan i bleidleisio dros y Blaid Lafur. Cofier bod hyd at 2 filiwn o'r bobl ifanc hyn wedi cofrestru o'r newydd i bleidleisio, a dyna'r rheswm y mae'r bwlch a ddangosir gan Yougov rhwng y ddwy brif blaid mor dynn( 3%). Mae'r polwyr eraill yn dueddol o amau a fydd y bobl ifanc hyn yn ddigon ymroddedig i droi allan i'r graddau hyn ddydd Iau, ac yn rhagweld felly mai 35% o'r garfan hon fydd yn bwrw pleidlais yn y pendraw, gan olygu y bydd gan y Ceidwadwyr fantais o tua 10% i 15% ddydd Iau.

 Mi ddywedodd y Ffrancwr Jean Jacques Rosseau unwaith mai dim ond yn ystod etholiadau cyffredinol yr oedd pobl Lloegr yn rhydd mewn gwirionedd( ac mi fyddai ei ddadl o yr mor berthnasol inni'r Cymry hefyd mae'n debyg).

"Unwaith y maent wedi dewis eu cynrychiolwyr seneddol, maent yn dychwelyd i fod yn gaethweision iddynt" meddai

Yn sicr, mae'r cyfnod hwn yn teimlo'n un ymryddhaol iawn a llawn gobaith ar sawl ystyr, Mae yna deimlad bod llawer o'r hyn y mae ein gwleidyddion wedi bod yn ei bedlera ers sawl blyddyn bellach wedi cael ei herio'n gynyddol dros yr wythnosau diwethaf ac mae hynny'n beth llesol iawn i ddemocratiaeth.

Does ond gobeithio y gellid herio barn Rousseau ar ol dydd Iau a pharhau i gadw golwg barcud ar ein cynrychiolwyr wrth iddynt fynd ati i reoli ar ein rhan dros y blynyddoedd nesaf. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Mae'n rhaid inni siarad yn onest am Islamiaeth bellach

ROEDD yr ymosodiad terfysgol a laddodd 22 o unigolion ym Manceinion yn gynharach yr wythnos hon yn un o'r digwyddiadau mwyaf erchyll i ddigwydd ar dir Prydain ers blynyddoedd mawr.

Er gwaetha'r holl ymosodiadau terfysgol Islamaidd yr ydym wedi bod yn dyst iddynt dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n anodd peidio meddwl bod rubicon go bendant wedi ei groesi yn yr ymosodiad  hwn a dargedodd plant a phobl ifanc mewn modd mor filain. 

Ond, eto yr un ystrydebau gwag a welwyd fel ymateb iddo gan ein cyfryngau a'n gwleidyddion megis- "chawn ni ddim ein curo", "safwn yn gryf gyda'n gilydd", ac mae'r cyhoedd hefyd yn gwbl gyfarwydd gyda'r sgript y mae disgwyl iddyn nhw ei ddilyn gyda'r ffasiwn ddigwyddiadau ar ffurf y galaru cyhoeddus, a'r ymgynnull ynghyd er mwyn cael bod yn actorion yn y broses . Er mor ddidwyll eu cymhellion, yr hyn sy'n taro dyn ydi pa mor oddefol ydi'r broses hon gyda'r cyfranogwyr yn cyfleu'r synnwyr nad oes yr un dim y gallwn ei wneud mewn gwrionedd ond dod ynghyd a galaru.

Lle mae'r DICTER cyfiawn sydd angen ei fynegi yn dilyn gweithred mor ysgeler? Mae mynegi dicter yn rhywbeth y mae'n rhaid i unigolion a chymdeithas iach ei wneud, ond eto doedd dim argoel o hwn i'w weld ar y cyfryngau torfol dros y dyddiau diwethaf.

Siawns bod methiannau'r gwasanaethau cudd yn yr achos hwn yn destun dicter cyhoeddus? Dyma'r gwasanaethau cudd cofier sydd ers blwyddyn a hanner bellach yn gallu darllen pob ebost a phob neges destun a ddanfonir gan bob copa walltog yn y gwledydd hyn, a sydd wedi cyflogi miloedd o spooks ychwanegol er mwyn cyflawni'r gwaith hwn. I ba bwrpas wedi digwyddiadau nos Lun?

 A beth am fethiannau'r Prif Weinidog Theresa May o gofio mai hi oedd yr Ysgrifennydd Cartref a fethodd pob targed i geisio lleihau lefelau mewnfudo i Brydain o 2010 ymlaen a thorri lefelau'r Heddlu i'r asgwrn ar ben hynny? Oni ddylai hi fod yn destun dicter pobl a hithau wedi methu yn y ddyletswydd bwysicaf sydd gan unrhyw wladwriaeth mewn gwirionedd- sef amddiffyn ei dinasyddion? Y dybiaeth gyffredinol wedi nos Lun oedd y byddai'r ymosodiad yn cryfhau safle'r Ceidwadwyr. Ond roedd arolwg YouGov neithiwr, a gynhaliwyd wedi'r ymosodiad yn dangos bod y Toris i lawr i 43% a Llafur ar 38%. Efallai bod y ffigwr hwn yn awgrymu mai Theresa May fydd y bwch dihangol yn hyn oll?

Beth bynnag am hynny, y caswir ydi bod rhaid  inni agor ein llygaid bellach i'r bygythiad gwirioneddol sydd yn ein hwynebu ar ffurf Islamiaeth a ffurfio ymateb rhagorach iddo na rhaffu sloganau gwag wedi un arall o ymosodiadau'r "death cult" canoloesol hwn.

Mae'r byd-olwg rhyddfrydol sydd wedi meddiannu ein cymdeithas ers blynyddoedd bellach wedi golygu na fu'n bosib ei dweud hi fel y mae am y bygythiadau mawr sydd ymhlyg gydag Islamiaeth.Yn ein diwylliant gwleidyddol gywir,  rhaid gochel rhag "anfanteisio" unrhyw garfan o'n cymdeithas ond y drafferth gyda hynny, ydi ei fod yn aml yn golygu bod ffeithiau anghyfforddus yn cael eu hanwybyddu. 

Faint o bobl sy'n gwybod er enghraifft bod yna dros 100 o adnodau yn y Koran sydd yn mynnu bod rhaid i'r credinwyr ladd y "Kaffirs"( anghredinwyr) lle bynnag y'u gwelir ac yn wir bod y ffydd ei hun yn seiliedig ar y rhanniad sylfaenol hwn rhwng "Byd Islam" a "Byd Rhyfel" (sef pawb arall y mae'n rhaid eu gwrthod a'u herlid?).

Purion, meddai rhai, ond siawns nad ydi'r rhan fwyaf o Fwslemiaid cyffredin yn credu'r syniadau hyn? Yn anffodus, dangosodd arolwg diweddar bod 100,000 o Fwslemiaid Prydain yn "cydymdeimlo" gyda gweithredoedd hunan-fomwyr. Ymhellach, dangosodd arolwg arall bod y Mwslem cyffredin yn credu bod gwrywgydiaeth yn bechod difrifol ac mai dinasyddion eilradd oedd merched yn eu golwg. Mae'n berffaith amlwg bod yna wrthdaro cwbl sylfaenol yma rhwng credoau fel hyn o'i gymharu gyda gwerthoedd y gorllewin, a does dim modd anwybyddu'r hollt hwn bellach.

Does dim atebion hawdd i broblemau Islamiaeth . Yn sicr, dylai arweinwyr Mwslemaidd wneud llawer mwy i gondemnio'r terfysgwyr hyn a gwneud mwy i atal y broses hon o radicaleiddio dynion ifanc sy'n cael eu hudo i rengoedd y terfysgwyr. Efallai y dylent wneud mwy hefyd i geisio diwygio'r rhannau hynny o'r Koran sy'n cael eu defnyddio fel cyfiawnhad ar gyfer syniadau'r brawychwyr yn eu plith. 

Ar yr un gwynt, mae'n rhaid i'n harweinwyr gwleidyddol ninnau wneud mwy i ymateb i'r broblem. Mae'n rhaid wynebu'r bygythiad yn onest a chreu strategaeth hir-dymor pendant a phwrpasol er mwyn ei drechu.

Eisoes, mae rhai lleisiau ar y dde eithafol yn galw am system o "internment", er mwyn carcharu'r 3,000 o Jihadis Prydeinig sydd yn wybyddus i'r Gwasanaethau Cudd.Y perig gyda hynny ydi mai taflu petrol ar y fflamau fyddai hyn gan greu miloedd mwy o wirfoddolwyr i rengoedd Islamiaeth. 

 Llawer gwell fyddai mynnu ar y naill law bod disgwyl i'r gymuned Fwlemaidd integreiddio llawer mwy i'r gymdeithas yma ym Mhrydain a derbyn gwerthoedd sylfaenol y Gorllewin. Ac ar y llaw arall, efallai bod angen buddsoddi miliiynau ar raglenni dad-radicaleiddo trylwyr a fyddai'n ceisio deall natur y dieithriwch a'r casineb sy'n gyrru dynion ifanc i greu'r math o gyflafan a welwyd ym Manceinion a cheisio cynnig llwybr amgenach iddynt mewn bywyd. 

Beth bynnag a ddigwydd, rhaid cychwyn y drafodaeth ar fyrder. 

 

.

 

 

 

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.
I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Newid cymdeithas yw'r ateb i broblem iechyd meddwl

 

YR WYTHNOS ddiwethaf, cynhaliwyd wythnos iechyd meddwl, ac fe gafwyd sawl rhaglen dda ar y cyfryngau wrth i unigolion gwahanol drafod eu cyflyrau iechyd meddwl yn onest ac agored.

Mae S4C a Radio Cymru i’w canmol unwaith eto am gynnal wythnos o’r fath a chodi ymwybyddiaeth pobl Cymru ynghylch natur y broblem hon.

Ond er cystal y rhaglenni unigol, a dewrder yr unigolion a ymddangosodd arnynt, y drafferth yw bod y broblem yn parhau i gael ei chyflwyno fel ffenomena unigolyddol iawn, h.y.  mai rhywbeth sy’n digwydd taro rhai unigolion anffodus ydi’r broblem yn ei hanfod Mae’r atebion sy’n cael eu cynnig hefyd yn rhai unigolyddol iawn: siarad am bethau, ymarfer corff, ymlacio, bwyta’n iawn, cwsg rheolaidd  ac ati. Popeth yn iawn ar un ystyr: mae’r rhain oll yn bwysig iawn, fel y gallaf dystio fy hun fel rhywun sydd wedi dysgu byw gydag iselder a phryder.

Ond yr hyn sydd ar goll yn yr ymdriniaeth bresennol ydi’r cyd-destun cymdeithasol a’r dylanwad y mae natur cymdeithas heddiw yn ei gael arnom ni fel unigolion. Hwn yn wir ydi’r eliffant ar stepan y drws does neb am dynnu sylw ato.

Mae Cyfalafiaeth Rhempus( hyper-capitalism) y genhedlaeth ddiwethaf, a’i bwyslais didostur ar ariangarwch a llwyddiant materol, a'i narratif o enillwyr a chollwyr wedi creithio ein cymdeithas. Gellid dadlau bod effaith hyn oll wedi gadael mwy o ol yma yng Nghymru oherwydd bod y cyfryw werthoedd yn tynnu mor groes i’n traddodiadau egalitaraidd a phobl ganolog. Gyda chymunedau yn gwegian yn sgil y gyfalafiaeth ymosodol hon law yn llaw gyda’r agenda gyni ers 2010,  oes ryfedd fod gennym ni gymaint o unigolion clwyfedig o’n cwmpas yn ein gwlad?

Bu’r cyfryngau torfol yn barod iawn i erlyn arweinydd y Lib Dems, Tim Farron  yn ddiweddar am ei farn am wrywgydiaeth, gan gyfleu’r syniad cwbl gyfeiliornus mai prif gonsyrn Cristnogaeth ydi bod yn erbyn pobl hoyw.

Pam nad oes unrhyw un wedi meddwl gofyn i’n Prif Weinidog, sy’n honni bod yn Gristion cywir, pa mor Gristnogol mewn gwirionedd  yw torri’r gyllideb iechyd meddwl o £600 miliwn dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ac atal taliadau hanfodol i lawer iawn o bobl anabl ?

Er cymaint sydd wedi’i gyflawni i berswadio pobl i drafod mwy ar eu hiechyd meddwl unigol heddiw, heb gydnabod ein bod yn fodau cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r gymdeithas yr ydan ni’n digwydd byw ynddi, fyddwn ni ddim nes at y lan mewn gwirionedd.

Fel ymgyrchydd iechyd meddwl, credaf fod rhaid inni fod yn fwy rhagweithiol o lawer. Dydi o ddim digon i siarad am iechyd meddwl fel unigolion bellach,  mae’n rhaid mynd ati i ddadlau dros greu’r math o gymdeithas sy’n gallu hybu iechyd meddwl ymhlith pobl.

Cymdeithas sydd ddim mor obsesiynol am wneud arian gan osod gwaith a gyrfa uwchlaw popeth arall. Mae angen meddwl o ddifrif sut y gallwn weithio llai o oriau a rhannu gwaith yn decach fel fod gan bobl mwy o amser i ofalu am deulu ac anwyliaid, i allu dilyn gwahanol diddordebau y tu hwnt i waith, dysgu sgiliau newydd a chyfranogi mwy yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.

Gobeithio bydd modd datblygu rhai o’r syniadau hyn mewn Gŵyl Iechyd Meddwl sydd i’w chynnal yng Nghymru yn ystod yr haf. Bydd pwyslais yr ŵyl ar drafod y math o newidiadau sydd eu hangen yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gennym ni gymdeithas sy’n rhoi iechyd meddwl ei thrigolion ar frig yr agenda.

 

 

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I'm a great place for you to tell your story and let your visitors know a little more about you.

Macron a Le Pen: Lle Bynnag yn erbyn y Lle Hwn

Y PENWYTHNOS hwn, bydd pleidleiswyr Ffrainc yn dewis eu Harlywydd newydd, gyda dau ymgeisydd yn weddill yn y ras, sef Emmanuel Macron a Marine Le Pen. 

Mae'n gystadleuaeth hynod anarferol eleni gan nad yw un o'r ddau yn perthyn i'r pleidiau traddodiadol sydd wedi rheoli bywyd gwleidyddol Ffrainc ers blynyddoedd mawr, sef y Sosialwyr a'r Gweriniaethwyr. Er bod Emmanuel Macron wedi cychwyn ei blaid ei hun "En Marchon" dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n cystadlu yn y ras arlywyddol hon fel ymgeisydd annibynol i bob pwrpas. Ar gyfer rhan olaf yr etholiad, penderfynodd Marine Le Pen hithau ddiosg ei harweinyddiaeth o'r Front Nacional er mwyn cystadlu gyda Macron ar yr un gwastad annibynol.

Mae'r ffaith fod y ddau ymgeisydd yn cyflwyno'u hunain fel annibynwyr yn adlewyrchu sut y mae'r hen bleidiau traddodiadol wedi methu ag ymateb i anghenion gwleidyddol y presennol. Ond yn bwysicach na hynny hyd yn oed yw'r ffaith fod y ras arlywyddol hon wedi amlygu'r rhanniad newydd yn Ffrainc, sef y rhanniad rhwng y rhai hynny sydd yn gweld eu hunain fel unigolion cosmopolitan sy'n perthyn i fyd sydd y tu hwnt i Ffrainc ei hun, a'r rhai hynny sy'n parhau i ystyried eu hunain yn Ffrancod gyntaf uwchlaw popeth arall. I raddau mae hyn sy'n digwydd yn Ffrainc yn yr etholiad hwn yn feicrocosm o'r hollt bresennol sydd i'w weld ar hyd a lled cyfandir Ewrop.

Mewn termau syml, efallai y gellid disgrifio'r rhanniad newydd hwn sy'n bennaf seiliedig ar y synnwyr o hunaniaeth a diwylliant, ond hefyd ar elfennau megis llewyrch a chyfleon bywyd, fel pobl Lle Bynnag yn erbyn pobl y Lle Hwn.

I raddau, mae Emmanuel Macron yn ymgorfforiad o bobl Lle Bynnag gyda'i gefndir yn y byd ariannol a'i gyfnod fel banciwr gyda chwmni Rothchilds, a'i bwyslais ar bwysigrwydd yr Undeb Ewropaidd a marchnadoedd agored doed a ddel. Bu hefyd yn weinidog yn Llywodraeth Sosialaidd Francois Hollande oedd hefyd wrth gwrs yn frwd iawn dros yr Undeb Ewropeaidd. Mae Macron wedi ceisio'i orau i symud sylw pobl oddi ar y cefndir hwn wrth gyflwyno'i hun fel unigolyn o'r "tu allan"  i'r system bleidiol traddodiadol sydd felly yn gallu cynrychioli newid ar gyfer y dyfodol. Ond mae'n mynnu mai trwy droedio'r llwybr canol y mae gwneud hynny. Mae rhywfaint o'r Tony Blair ifanc ynddo yn y modd y mae'n gallu swyno ei gynulleidfa, ac mae'r holl sylw a'r gefnogaeth y mae cyfryngau priflif Ffrainc yn ei roi iddo hefyd yn atgoffa dyn o'r holl fopio a fu ynghylch Tony Blair yntau gan y cyfryngau ym Mhrydain ar y dechrau! Mae ei gefnogwyr at ei gilydd yn dueddol o fod yn unigolion dinesig, troedrydd a chosmopolitan sy'n gweld gwerth yn y syniad o fod yn rhan o endid sydd y tu hwnt i Ffrainc ei hun, ac yn gweld cyfleon globaleiddio yn drech na theyrngarwch i'r genedl-wladwriaeth draddodiadol.

Mae Marine Le Pen wedyn yn ymgorfforiad o bobl y Lle Hwn gyda'i phwyslais hi ar roi democratiaeth Ffrainc gyntaf trwy ail-sefydlu gwladwriaeth all warchod pobl Ffrainc rhag effeithiau globaleiddio, terfysgaeth Islamaidd a mewnlifiad di-rwystr. Ac mae hithau yn yr un modd yn ceiso tynnu sylw pobl oddi ar ei chefndir ei hun gyda'r Front Nacional ac etifeddiaeth wenwynig ei thad, Jean Marie Le Pen, trwy redeg ar ei liwt ei hun bellach. Yr hyn sy'n anghyffredin  am ei hymgyrch hi ydi ei bod yn ceisio denu cefnogaeth oddi wrth yr adain chwith a'r adain dde fel ei gilydd. Mae llawer iawn o'i maniffesto yn rhoi pwyslais ar rol y wladwriaeth i greu swyddi a llewyrch o'r newydd i bob rhan o'r wlad sydd yn apel uniongyrchol at y chwith. Ac mae ei phwyslais ar warchod democratiaeth a hunaniaeth diwylliannol Ffrainc wedyn yn apelio at y dde. Mae craidd ei chefnogwyr hi at ei gilydd yn y "Ffrainc Anghofiedig": pentrefi a threfi gwledig Ffrainc ac ardaloedd ol-ddiwydiannol y wlad sydd wedi gweld cymaint o swyddi'n diflannnu oddi yno dros y blynyddoedd diwethaf, pobl ifanc yn mudo i'r dinasoedd ac ansawdd bywyd y cymunedau hyn yn plymio. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod y cyfryngau( sydd at ei gilydd yn bur wrthwynebus iddi) wedi eu lleoli ymhell iawn o'r ardaloedd hyn yn ninasoedd mawr Ffrainc.

Ffordd arall o edrych ar Macron yn erbyn Le Pen a'r Lle Bynnag yn erbyn y Lle Hwn yw ystyried yr elyniaeth fawr rhwng dau o ffigyrau llenyddol mwyaf Ffrainc yn y 18ed ganrif sef Voltaire a Jean Jacques Rousseau. Roedd Voltaire yn rhoi ei ffydd mewn masnach di-rwystr, cynnydd a hunan-les rhesymegol pobl, ac y byddai arweinwyr goleuedig dinasoedd Ffrainc yn arwain gweddill y wlad yn hyn o beth. Roedd Rousseau yn ei dro yn amheus iawn o gymhellion yr elites dinesig hyn gan eu cyhuddo o hyrwyddo eu buddiannau eu hunain ar draul y boblogaeth yn gyffredin. Rhybuddiodd am y synnwyr o "ressentiment" oedd hyn oll yn ei greu a hynny yn ei dro yn niweidio'r gymdeithas drwyddi draw.

 O gofio Brexit, a Trump yn 2016  tybed oes yna sioc arall ar y gweill yn Ffrainc? Ar hyn o bryd y mae Macron i'w weld yn ffefryn clir gyda mantais o 20% yn y polau piniwn, a sawl un o'r ymgeiswyr aflwyddiannus eraill wedi annog eu cefnogwyr i drosglwyddo eu pleidlais iddo ef. Os y gall barhau i lywio'r llwybr canol, gofalus mae'n fwy na thebyg mai fo fydd yn fuddugol. Gobaith gorau Le Pen efallai yw disgleirio yn y drafodaeth deledu olaf sydd i'w gynnal heno ( nos Fercher), a pherswadio'r etholwyr bod yna ddeinameg newydd yn perthyn i'r ras bellach o leihau'r ymgeiswyr o 11 i 2. Byddai'n rhaid iddi berswadio rhai cefnogwyr pleidiau'r chwith a chefnogwyr pleidiau eraill o'r dde i fenthyg eu pleidlais iddi er mwyn atal Macron, neu bwyso arnynt i beidio bwrw pleidlais o gwbl. 

 Yr Undeb Ewropeaidd neu Ffrainc? Beth bynnag yw'r canlyniad ddydd Sul, go brin y bydd yr hollt hwn yn cael ei gyfannu'n rhwydd iawn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Merched Glantaf-mae'r hen yn gallu bod yn gyfoes!

YR wythnos hon, cawsom wybod am ymdrech sydd ar droed ymhlith disgyblion Ysgol Glantaf, Caerdydd i gael gwared ar yr arfer o adrodd Gweddi'r Arglwydd yn yr ysgol.

Mae deiseb wedi ei gychwyn gan ddwy ferch ifanc gyda'r nod o ddwyn perswad ar lywodraethwyr yr ysgol nad oes lle i'r ffasiwn arfer bellach.  Mae son hyd yn oed am fynd ymhellach a chyflwyno'u hachos gerbron ein senedd genedlaethol.

Wrth adrodd y stori ar S4C, diddorol oedd sylwi ar ogwydd y gohebydd; hynny yw pa mor eofn a modern oedd y ddwy ferch dan sylw, a pha mor haeddiannol oedd eu hachos i bob pwrpas.

Roedd gorfod adrodd Gweddi'r Arglwydd yn anheg yn ol un o'r merched gan nad oedd y rhan fwyaf o'r disgyblion  yn gredinwyr beth bynnag, a rhai o'r disgyblion yn pethyn i draddodiadau ffydd eraill. A meddai'r llall: " Dyw adrodd Gweddi'r Arglwydd ddim yn mynd i'n helpu fi gael A * nag yw?".

Y neges ymhlyg yn natganiadau'r merched oedd bod adrodd y weddi rhywsut yn tramgwyddo yn erbyn eu hawliau sylfaenol fel unigolion. Ac wrth gwrs, clywyd mantra mawr ein cyfnod gan y ddwy, sef y dylent gael dewis gyda'r mater hwn.

O gofio sut mae gwerthoedd cyfalafol wedi treiddio i bob twll a chornel o'n cymdeithas dros y genhedlaeth ddiwethaf, a phawb wedi eu cyflyru i fod yn gwsmer uchlaw popeth arall,  a yw'n syndod mewn gwirionedd fod pobl ifanc heddiw wedi llyncu'r meddylfryd hwn yn llwyr?

Wedi'r cwbl, hanfod bod yn gwsmer heddiw ydi fod popeth yn cael ei weld trwy brism yr hunan a'r hyn sydd o werth i'r hunan. Gyda pherspectif felly, anodd yw gweld unrhyw  werth mewn dimensiwn ysbrydol i fywyd, sydd wrth gwrs yn rhoi'r pwyslais ar bethau y tu hwnt i gylch cyfyng yr hunan.

Gwelir hefyd yn ymateb y disgyblion y pwyslais cyfoes ar ragoriaeth y foment hon, a phrofiad y presennol yn anad un peth arall. Mae'r bydolwg hwn yn dueddol o fod yn ddirmygus o'r gorffennol yn syml gan nad ydi o'n bodoli yn y presennol. Dan ni wir yn byw yn y "Presennol Parhaus" erbyn heddiw. 

Ond mewn cyfnod lle bo cymaint o bwysau ar bobl ifanc o bob cyfeiriad, boed hynny ar ffurf arholiadau, cyfryngau cymdeithasol neu'r diffyg swyddi addas ar eu cyfer wrth adael y byd addysg, tybed onid oes mwy fyth o angen i ysgolion gynnig amddiffynfeydd penodol i bobl ifanc rhag y problemau hyn?

A beth sydd o'i le ar ddysgu patrwm o weddi allai fod o ddefnydd i'r bobl ifanc hyn wrth wynebu unrhyw anawsterau allai ddod i'w rhan yn y presennol a'r dyfodol?

Er yr holl sylw a gaiff yr anffyddiwr ymosodol Richard Dawkins, mae consensws cynyddol ymhlith llawer o wyddonwyr heddiw ein bod yn byw mewn bydysawd sydd yn disgleirio o ddeallusrwydd( intelligence) a'n bod ninnau hefyd yn rhan o'r deallusrwydd mawr hwn.

Mae'r Cymry wedi defnyddio'r gair Duw ers 1,500 o flynyddoedd er mwyn ceisio disgrifio'r deallusrwydd hwn- ac mae'n air sy'n rhan  allweddol o'n treftadaeth ddiwylliannol felly. Y dreftadaeth ddiwylliannol y mae disgyblion mewn ysgol fel Ysgol Glantaf i fod i'w drysori uwchlaw popeth!

 Ac os nad yw geiriau Gweddi'r Arglwydd yn ymddangos yn berthnasol a chyfoes iddynt ar yr olwg gyntaf, efallai y gallai'r ysgol fynd ati i'w ddehongli mewn modd sydd yn gallu gwneud hynny, megis yr isod.

 Ein Tad yr Hwn wyt yn y Nefoedd

( O Rym sydd fel Tad neu Fam Cariadus inni sy'n byw mewn gofod ysbrydol pell ac agos)

Sancteiddier dy enw

( Tyrd yn agos atom ni i wneud dy enw yn ystyrlon i ni heddiw)

Deled dy Deyrnas, Gwneler dy Ewyllys

(Gad i dy weledigaeth o heddwch a chyfiawnder gael ei sefydlu yn ein byd am byth)

Felly yn y nef, felly ar y ddaear hefyd

(Boed i'r dimensiwn dwyfol perffaith gael ei gyflwyno i'n plith ni heddiw)

Dyro i ni ein bara beunyddiol

(Rho bopeth dan ni ei angen heddiw yn gorfforol, yn emosiynol, yn ysbrydol ac yn ein perthynas gyda phobl eraill)

Maddau i ni ein dyledion

(Maddau i ni am yr hyn yr ydan ni wedi ei wneud neu beidio ei wneud dros eraill)

Fel y maddeuwn ni i eraill

( Fel y gallwn ninnau faddau i bobl eraill  yr un pethau yn yr un modd)

 Ac nac arwain ni i brofedigaeth

(Helpa ni i beidio idlio i ofn, casineb neu anobaith yn ein bywyd)

Eithr gwared ni rhag drwg

(Rhyddhau ni o'r meddyliau a'r gweithredoedd hynny sy'n iselhau ac yn tanseilio'r hyn yr wyt ti am ei weld ynom ni)

Canys eiddot ti yw'r deyrnas, y nerth a'r gogoniant

(Gad i ni deimlo dy realiti trawsnewidiol sy'n rhoi gobaith parhaus i ni, a'n llenwi ni gyda'r pwer hwnnw sydd ynot ti)

Yn oes oesoedd, Amen

(Caniata inni weld y gogoniant yr wyt ti yn ei ddisgleirio drwy'r hyn rwyt ti wedi ei greu am byth).

Gweddi sy'n hen ond yn fythol gyfoes.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd

Sancteiddier dy enw

Deled dy Deyrnas,

Megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd

Dyro i ni ein bara beunyddiol

Maddau i ni ein dyledion

Fel y maddeuwn ni i'n dyledwyr

Ac nac arwain ni i brofedigaeth

Eithr gwared ni rhag drwg

Canys ti yw y grym a'r gogoniant

Yn oes oesoedd .Amen

 

 

      i 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Hen Lanc ac Hen Ferch: mae'n hen bryd eu gollwng!

MAE'N debyg y bydd canran pobl sengl yn America yn cyrraedd 45% o boblogaeth y wlad erbyn diwedd y ddegawd hon.

O gofio fod patrymau cymdeithasol America yn dueddol o gael eu hail-adrodd yma ym Mhrydain rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r ffenomena hon yn siwr o gael effaith pell gyrhaeddol ar natur y gymdeithas yma hefyd gyda hyn.

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn innau yn ymuno gyda rhengoedd yr "hen lanciau" yn fy mhumdegau cynnar ond dyna ni, 18 mis wedi fy mherthynas ddiwethaf ddod i ben, mae'n debyg y dylwn i ddatgan diddordeb personol gyda'r pwnc neilltuol hwn bellach!

Yn draddodiadol wrth gwrs testun trueni a dirmyg tawel fu'r hen lanc a'r hen ferch yn y gymdeithas Gymreig erioed, gyda'r syniad bod yr unigolion hyn wedi methu cael hyd i gymar, ac felly'n rhwym o fyw bywydau unig a di-gysur yn sgil hynny. Ac mae'n siwr bod elfen o wir  yn perthyn i'r gred honno mewn oes a fu, pryd mai'r cyflwr priodasol oedd yr unig opsiwn derbyniol mewn cymdeithas i bob pwrpas.

Ond a ydi'r enwau Cymraeg hyn ar y cyflwr sengl yn cyfleu realiti'r sefyllfa bresennol yng Nghymru heddiw? Tybed a oes  angen bathu geiriau newydd i ddisgrifio natur gwahanol y math o fywyd sengl sy'n bosib ei fyw heddiw?

O'r 10 ffrind agosaf sydd gen i yn fy mywyd ar hyn o bryd, mae eu hanner nhw'n sengl. Mae hynny'n braf  iawn ar un ystyr gan ei fod yn dangos nad ydwi  ar fy mhen fy hun wrth fyw fel hyn, ac wrth gwrs mae'n braf iawn gallu rhannu profiadau am y bywyd sengl, a hynny o safbwynt gwrywaidd a benywaidd. Ar yr un gwynt, mae'n braf hefyd cynnal cyfeillgarwch hefo'r pump arall sy'n briod a chael perspectif arall ar fywyd trwy gyfrwng hynny. 

 

"The Great British Delusion-Off": ar eich sgrin cyn hir!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

"Yfory": drama sy'n herio heb argyhoeddi'n llwyr.......

Adolygiad o ddrama "Yfory" gan Sion Eirian. Galeri, Caernarfon, 21.3.17

Brexit, Trump, Ol-Wirionedd, Dafydd El,  Plaid Cymru, Llafur, Y Toriaid ac UKIP- roedd y gyd-berthynas gymhleth a dyrys rhwng gwleidyddiaeth gyfoes America, Prydain a Chymru oll dan y chwyddwydr yn y ddrama newydd hon gan Sion Eirian.

Gofynna'r awdur i'w gynulleidfa ystyried sut yn union mae ymateb i'r chwalfa a welwn ni heddiw: ai trwy ddelfrydiaeth newydd yntau ai trwy chwarae'n saff a gwarchod beth sy'n bosib ei warchod.

Calon y ddrama yw'r berthynas rhwng Gwyn, Arweinydd newydd Plaid Cymru( Dewi Williams) a'i gariad Ellie( Caryl Morgan), sef ei gynghorydd personol ifanc ym Mae Caerdydd. Buan iawn y sylwn mai Ellie sy'n gwisgo'r trowsus yn y berthynas hon a'i bod yn defnyddio'r gwleidydd mewn gwirionedd i wireddu ei breuddwydion gwleidyddol ei hun. Ac yn wir, mae defnyddio pobl eraill mewn gwahanol ffyrdd yn un o'r themau amlwg a gaiff eu datblygu wrth i'r ddrama ddatblygu.

Yng nghwrs y ddrama hefyd, down i gyfarfod Kelvin( Rhodri Ifan), arweinydd stumddrwg y Blaid Lafur sydd am daro bargen wleidyddol gyda Gwyn sydd yn hen ffrind coleg iddo, a Trystan(Aled Bidder) mab Gwyn, sydd ar gyfeiliorn braidd yn ei fywyd ifanc yn ninas fyrlymus Caerdydd.

Ar lefel wleidyddol, does dim dwywaith fod y ddrama hon yn taro deuddeg. Mae'n llwyddo i roi mynegiant croyw iawn i'r rhwystredigaeth gyhoeddus gyda gwleidyddiaeth "Y Bae" ,gyda sawl ergyd hynod ddeifiol am fethiant llwyr y Cynulliad, o dan arweiniad Y Blaid Lafur ers ei gychwyn yn 1999, i ysbrydoli pobl Cymru. A diau y byddai llawer ohonom yn cytuno gyda'r awdur mai rheolwyr sydd wrth y llyw ym mhob plaid bellach, yn hytrach nag arweinwyr sy'n fodlo breuddwydio breuddwydion mawr ar ein rhan fel Cymry.

Mae Ellie ar dan i newid y sefyllfa hon gan ddadlau fod rhaid i Gwyn fentro'r cwbl er mwyn ceisio sefydlu llywodraeth glymbleidiol amgen i Gymru yn lle'r Blaid Lafur. Un broblem fach gyda hyn wrth gwrs yw y byddai'n golygu cynnwys UKIP mewn clymblaid o'r fath. Problem foesol nid yn unig i Gwyn a'i Blaid sydd mor wrthwynebus i UKIP, ond problem hefyd y mae'n rhaid i'r gynulleidfa hithau gnoi cil arni, gan y gallai cwestiwn fel hyn godi go iawn yng Nghymru cyn bo hir. Mae'n ddyfais glyfar iawn gan yr awdur er mwyn ymgynnwys y gynulleidfa yng nghyfyng-gyngor Gwyn.

Mae'r broblem honno yn mynd yn fwy dyrys wrth i Ellie esbonio mor huawdl wrth Gwyn sut y gellid defnyddio un o bolisiau UKIP i wella bywyd yng Nghymru, sef datganoli grym i lawr o Gaerdydd i  gymunedau lleol ar hyd a lled y wlad. Rhoi'r hawl i bob ardal benderfynu eu hunain sut i redeg addysg, gofal i'r henoed, gwasanaethau cymdeithasol, tai, a'r drefn gynllunio ac ati. Yn llawn argyhoeddiad, dywed Ellie mai dyma'r ateb i'r anomie a'r anobaith sydd yn rhemp yn ein cymunedau yng Nghymru heddiw. Wrth roi grym go iawn yn ol i bobl yn eu cymunedau, byddai hynny yn eu calonogi a'u grymuso gan arwain at ddemocratiaeth gyfranogol newydd a chynhyrfus yng Nghymru, meddai. Wrth i Gwyn ddechrau meirioli, rydan ninnau fel cynulleidfa yn cael ein cario hefyd ar y don o frwdfrydedd heintus sy'n perthyn i Ellie. Ai datganoli grym i'n cymunedau ydi'r "game-changer" mawr Cymreig gofynnwn i'n hunain? Alle ni greu model newydd sbon o ddemocratiaeth yn ein gwlad?

Ond gyda delfrydiaeth yn dechrau magu stem, daw pragmatiaeth i'r fei ar ffurf Kelvin, sydd am gynnig syniad cwbl wahanol i Gwyn. Yn ol Kelvin, yn yr oes ol-Trump, Ol-Brexit hwn, mae democratiaeth Gymreig ei hun o dan fygythiad, a'r unig ffordd o warchod Cymru bellach yw sefydlu clymblaid gref rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru unwaith eto. Mae Kelvin yntau i'w weld yn gwbl ddidwyll ar y cychwyn - ac unwaith eto cawn ein tywys fel cynulleidfa i gytuno fod ganddo ef hefyd bwynt dilys iawn. Onid yw'n gwneud synnwyr i'r Fro Gymraeg a Welsh Wales uno gyda'i gilydd eto yn erbyn bygythiad cynyddol British Wales?

Ond buan y gwelwn fod gan Kelvin y gwleidydd ddulliau llawer butrach o gael y maen i'r wal, gan ensynio y byddai rhai o gampau ei ffrind yn ystod eu dyddiau coleg yn gallu cyfrif yn ei erbyn pe bai Gwyn yn gwrthod ei gynnig. Ac mae yna dro butrach byth yn y gynffon sydd yn lladd y ddelfrydiaeth gychwynnol yn rhacs maes o law gan sicrhau fod gem wleidyddol arferol y Bae yn mynd yn ei blaen unwaith yn rhagor. Dydi Yfory ddim gwahanol i Ddoe ydi neges braidd yn ddigalon y ddrama hon erbyn ei therfyn.

 

Ond er cystal y gwleidyddiaeth, dydi'r cymeriadau unigol na'r perthynu rhyngyddynt yn llwyr argyhoeddi dyn mewn gwirionedd. Er mor huawdl a llifeiriog yw Ellie fel cymeriad, does ganddon ni fawr ddim syniad pwy ydi hi yn y bon, na chwaith sut y daeth hi i fod mor danbaid o ran ei gwleidyddiaeth. Dydi Gwyn chwaith, er mor gredadwy ydi o fel brid o wleidydd yn y Bae, ddim yn gymeriad crwn. Er enghraifft, dim ond yn hwyr yn y ddrama y cawn ni wybod am ffaith cwbl ddirdynnol yn hanes personol Gwyn, ond eto doedd dim awgrym o'r trawma hwn ynghynt. Ac er fod Trystan, ei fab, yn ganolog yn y "denoument" dramatig ar ddiwedd y drama, dydi perthynas y tad a'r mab ddim yn taro deuddeg chwaith. Oherwydd hynny, mae hyd yn oed penderfyniad Gwyn i sefyll gyda'i fab yng nghanol ei bicil personol yn gadael dyn braidd yn oer yn anffodus. Ac wrth gwrs, mae'r ffaith fod hynny hefyd yn caniatau iddo hefyd gefnu'n gyfleus iawn ar syniadau Ellie yn dwysau'r teimlad hwnnnw.

 

Unigolion braidd yn ddi-gyswllt ydi cymeriadau Yfory yn y bon, ac adlewyrchiad o hynny ydi'r ffaith nad oes un adeg yn ystod y ddrama pan mae'r 4 cymeriad yn rhannu'r llwyfan gyda'i gilydd. Mae hynny'n amddifadu'r ddrama o'r tensiwn dramatig allai fod wedi ei ddatblygu mewn sefyllfa o'r fath.

O gofio'r hen wireb  "Politics is Personal": gan nad ydan ni'n gallu closio'n iawn at y persenoliaethau unigol ar y llwyfan o'n blaen , syrthio ychydig yn brin y mae'r ddrama hon fel cyfanwaith . Ond diolch i Sion Eirian am ein procio a'n herio yn ei ffordd arferol!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dwy'n dechrau dawnsio ar y dibyn

GO brin fod Nichola Sturgeon, Arweinydd yr SNP wedi clywed am y dywediad Cymraeg "Os na fydd gryf, bydd gyfrwys", a ddeilliodd heb os o brofiad gwlad fach yn byw yng nghysgod ei chymydog mawr am ganrifoedd.

Ond, a welwyd erioed enghraifft well o'r dywediad hwn ar waith yn y byd gwleidyddol wedi ei chyhoeddiad fore Llun y bydd ei Llywodraeth yn cynnal Refferendwm arall ar Annibyniaeth i'r Alban cyn 2019?

Roedd y Prif Weinidog Theresa May yn paratoi  i gyhoeddi Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon yn dilyn cwblhau'r broses drafod yn Nhy'r Cyffredin heno. Byddai wedi rhagweld bonllefau o gymeradwyaeth o'r wasg boblogaidd ac y byddai hynny oll yn rhoi gwynt yn ei hwyliau wrth baratoi ar gyfer y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropaidd.

Ond cafodd hynny oll ei danseilio'n ddiseremoni gan gyhoeddiad annisgwyl ac hynod gyfrwys Prif Weinidog Yr Alban, yn y datganiad urddasol a wnaed ganddi yn Bute House, Caeredin. Gyda chymaint yn tybio y byddai'n gwneud y cyhoeddiad hwn yng nghynhadledd yr SNP, roedd gwneud hynny yn rhinwedd ei rol fel Prif Weinidog yr Alban, yn hytrach nag arweinydd yr SNP yn symudiad meistrolgar ar ei rhan.

Ar yr olwg gyntaf felly, mae'n ymddangos fod Sturgeon wedi cyflawni stroc go iawn fan hyn trwy achub y blaen ar Theresa May,  ac yn wir wedi gwanio sefyllfa Prif Weinidog Prydain yn ddifrifol heddiw.

Wedi'r cwbl, roedd May wedi argyhoeddi ei hun nad oedd Sturgeon o ddifrif am gynnal ail refferendwm ac mai bygythiadau gwag oedd ei rhybuddion am y posibiliad hwnnw. Oherwydd y dybiaeth honno, teimlodd nad oedd rhaid iddi gyfaddawdu o gwbl gyda galwadau yr SNP i geisio sicrhau lle arbennig i'r Alban yn y Farchnad Sengl fel rhan o ddel Brexit Prydain. Mae'r hyn a ddigwyddodd heddiw yn adlewyrchu'n wael iawn ar grebwyll gwleidyddol  Theresa May. O gofio fod hyn yn dilyn yn sgil y penderfyniad i gosbi'r hunan-gyflogedig yn y gyllideb wythnos ddiwethaf a thorri addewid sylfaenol ym maniffesto y Toriaid- y cwestiwn amlwg sy'n codi rwan ydi a yw May allan o'i dyfnder fel Prif Weinidog?  Fydd hyn ddim yn syndod o gwbl i'r rhai sydd yn gwylio ei pherfformiadau prennaidd ac aneffeithiol yng nghwestiynau'r Prif Weinidog pob dydd Mercher. Does dim o'r sglein a'r rhwyddineb ar ei draed a oedd yn nodweddu  David Cameron yn perthyn iddi o gwbl, a Jeremy Corbyn er mor anobeithiol ydi'r creadur hwnnw fel cyfathrebwr yn cael y llaw uchaf arni yno yn amlach na pheidio.

Yn fwy difrifol, mae datganiad Nichola Sturgeon yn golygu y bydd llaw negydu Llywodraeth Prydain yn llawer iawn gwannach wrth baratoi i drafod gyda'r Undeb Ewropeaidd rwan. Yn gyntaf wrth gwrs bydd dim modd i'r Prif Weinidog ddatgan ei bod yn siarad ar ran Prydain "Unedig" wrth ddechrau trafod. Yn ail, roedd hawliau i bysgota oddi ar arfordir yr Alban a chyfoeth olew a nwy Yr Alban yn rhan allweddol o  gynllun negydu y Llywodraeth wrth geisio taro bargen gydag Ewrop. Mae'r tsips bargeinio hynny wedi eu cipio'n ddramatig oddi ar y bwrdd bellach. Roedd mandarins yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi penderfynu i yrru bargen galed iawn gyda Llywodraeth Phrydain. Bellach, mi fyddan nhw am droi'r sgriws hyd yn oed yn dynnach. Dydi o ddim yn amhosib y byddan nhw hefyd yn ceisio hwyluso dadl Yr Alban y dylent etifeddu aelodaeth Undeb Ewropaidd yn ddi-dor wrth i Lywodraeth Prydain adael yn 2019.

Mae'n bosib y gall Theresa May geisio ad-ennill peth o'i hygrededd wleidyddol wrth benderfynu na chaiff Yr Alban gynnal ei refferendwm tan fod Brexit wedi ei gwblhau. Ond hyd yn oed pe bai hynny'n digwydd, mae'n anodd peidio dod i'r casgliad ei bod hi'n nesau'n beryglus at y dibyn bellach. Does ryfedd fod Michael Gove a Boris Johnson ill dau wedi cynyddu eu proffiliau unigol yn sylweddol dros yr wythnosau diwethaf. Tybed yn wir oedd y ddau wedi rhagweld o'r cychwyn mai traed moch fyddai'n digwydd gyda Brexit ac y byddai'n well i'r ddau ohonynt gadw eu powdr yn sych am y tro?

 Ond mae'n ddawns ddigon peryglus i Nichola Sturgeon hithau. Hyd yn oed pe bai hi'n cael ei dymuniad i gynnal refferendwm yn ystod y cyfnod y mae'r negydu yn mynd rhagddo hefo'r Undeb Ewropeaidd, gan y byddai sylw Llywodraeth Prydain wedi ei rannu rhwng dau elyn, mae pob refferendwm yn loteri llwyr mewn gwirionedd. Mae yna hefyd berig mawr o "voter fatigue" o gofio'r holl etholiadau/refferenda sydd wedi eu cynnal yn Yr Alban ers 2014, ac y caiff yr SNP ei beio am lusgo pobl i bleidleisio unwaith eto.

Ac os oes rhaid iddi ildio i ddymuniad May i gynnal y refferendwm yn dilyn cwblhau Brexit, does dim sicrwydd o gwbl y byddai gan yr SNP fwyafrif i allu galw annibyniaeth yn y Senedd yn Holyrood erbyn 2020.  Byddai'r SNP wedi bod mewn grym am 13 o flynyddoedd erbyn hynny, a'r etholwyr efallai wedi cael digon arnynt.

 

Ond efallai mai'r elfen anoddaf un i Nichola Sturgeon yw sefyllfa'r Undeb Ewropaidd ei hun dros y blynyddoedd nesaf. A fydd y ddadl ddiamwys fod Yr Alban wedi dewis aros yn yr Undeb Ewropaidd yn y refferendwm y llynedd yn wahanol i Loegr yn cario cymaint o bwysau mewn sefyllfa lle y gallai bodolaeth yr Undeb honno ei hun fod mewn perig? Yr wythnos hon, mae etholiad cyffredinol yn yr Iseldiroedd, ac mae'n debyg iawn y bydd pleidiau sydd am adael yr Undeb yn gwneud yn dda iawn. Y mis nesaf, mae etholwyr Ffrainc yn cael dweud eu dweud, ac unwaith eto y mae yna deimladau cryfion yn erbyn yr UE ac awydd am weld sofraniaeth gwadwriaeth Ffrainc yn cael ei ail-sefydlu yno. A fydd y prosiect Ewropeaidd yn cael ei chwalu neu o leiaf yn cael ei ail- ddychmygu'n sylweddol iawn dros y 18 mis nesaf? A fyddai hynny yn cyfiawnhau'r penderfyniad a wnaeth Lloegr a Chymru i adael y llynedd, ac yn tanseilio dadl yr SNP am aros mewn UE sydd ddim yn bodoli mwyach? 

Os mai NA fydd hi eto yn yr ail refferendwm, dyna ddiwedd ar yrfa Nichola Sturgeon. A dyna berig fydd diwedd y freuddwyd o annibyniaeth i'r Alban hefyd.  Mewn amgylchiadau felly, mae'n anorfod y byddai Llywodraeth Llundain yn deddfu yn erbyn cynnal unrhyw pleidlais arall ar refferendwm am genhedlaeth arall o leiaf. Mae'n fwy na thebyg hefyd y byddent yn dewis tynnu llawer o bwerau o Holyrood a'u hail-sefydlu yn San Steffan.

O gofio hyn, mae yna risgiau anferthol yn wynebu Nichola Sturgeon mewn galw refferendwm yn y sefyllfa gyfnewidiol iawn sydd ohoni ar hyn o bryd. Ond tybed ydi hi eisoes yn meddwl am ddull arall, rhagor na chynnal refferendwm ymrannus ac ansicr arall? Hynny ydi, galw Etholiad Cyffredinol yn Holyrood rhywbryd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda'r SNP yn sefyll ar docyn o  ddatgan annibyniaeth pe baent yn ennill mwyafrif arall. Efallai y bydd yna bethau yn digwydd dros y misoedd nesaf allai gyfiawnhau hynny-  megis Llywodraeth Prydain yn ymddwyn yn eu dull trahaus arferol tuag at Yr Alban. Trwy ddulliau confensiynol fel hyn y mae'r rhan fwyaf o wledydd wedi ennill eu hannibyniaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf, a dim ond dyrnaid o wledydd sydd wedi gwneud hynny trwy refferendwm mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, byddai'n haws i'r SNP sicrhau eu bod yn llwyddiannus y tro hwn trwy ddilyn y trywydd hwn.

 

"Events dear boy, events" oedd ateb Harold Wilson i gwestiwn ynghylch beth oedd y broblem fwyaf a wynebai unrhyw wleidydd.  Wrth i Theresa May a Nichola Sturgeon ddawnsio ill dwy ar ben y dibyn gwleidyddol dros y misoedd nesaf, diau y caiff hyn ei wireddu eto fyth yn hanes y ddwy arweinydd a fydd yn brwydro am einioes wleidyddol y naill a'r llall yn y frwydr fawr sydd i ddod. Mae'n anodd dychmygu sefyllfa lle na fydd un o'r ddwy yn plymio dros y dibyn hwnnw maes o law.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 .

 

 

 

 

 

 

 

   

 

 

 

 

 .

 

 

Mor hawdd y cawn ein tramgwyddo heddiw

UN o'r tueddiadau anffodus sydd wedi amlygu ei hun yn ein cymdeithas dros y blynyddoedd diwethaf yw'r syniad hwn o gael ein "tramgwyddo"( to be offended). Yn slei bach, mae'r meddylfryd hwn wedi plannu ei hun yn solet yng ngwreiddiau ein bywyd cyhoeddus bellach. Ac, mi fyddwn i'n dadlau bod ein democratiaeth yn dlotach o'i herwydd.

Wrth gwrs, mae cefndir hanesyddol digon cymeradwy i'r datblygiad hwn ar ffurf y gwahanol ddeddfwriaethau cyfartaledd sydd wedi eu pasio dros y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf. Roedd y rhain yn fodd o wneud yn iawn am yr anghyfartaledd a'r anghyfiawnder go iawn a wynebodd grwpiau megis pobl hoyw, pobl groenddu, a phobl anabl yn ein cymdeithas ers cymaint o amser. Yn eu tro, mae'r rhain wedi llwyddo i leddfu llawer o'r anawsterau a wynebodd y carfannau hyn er fod peth gwaith i'w wneud o hyd wrth gwrs.

Ond, fe ddigwyddodd hyn oll hefyd mewn cyfnod lle gwelwyd cynnydd mawr mewn unigolyddiaeth yn wyneb yr holl bwyslais ar rinweddau'r farchnad, ac ariangarwch mewn cylchoedd gwleidyddol ac economaidd ers dechrau'r 80au.

Mae'r unigolyddiaeth hwn i'w weld ar waith mewn cymaint o feysydd gwahanol yn ein cymdeithas erbyn hyn, ac un o'i sgil-effeithiau ydi'r gor-bwyslais cyfoes ar deimladau ac emosiwn fel sail i bopeth. Mi roedd hyn yn amlwg iawn yn y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd y llynedd, lle roedd cymaint o'r dadlau ar lefel emosiynol iawn, a phawb yn gorfod teimlo i'r byw am bethau, fel pe bai eu hunaniaeth( identity)  bersonol nhw eu hunain yn y fantol yn y bleidlais. Roedd yna amharodrwydd sylfaenol i wrando ar safbwyntiau gwahanol, ac roedd y cwbl megis un opera sebon fawr o deimladau ac emosiwn pur.

Un o fynegiannau amlycaf yr unigolyddiaeth emosiynol hwn yw'r diwylliant cael ein tramgwyddo sydd mor amlwg yn ein cymdeithas erbyn hyn, gyda phobl mor barod i ddweud fod barn rhywun neu'i gilydd yn eu tramgwyddo, ac yn peri loes iddynt.

Mae gennym ddywediad gwych yn y Gymraeg sef "Rhydd i bawb eu barn ac i bob barn ei llafar", a'r ofn sydd gen i ydi fod yr egwyddor sylfaenol hon yn cael ei cholli mewn diwylliant gwleidyddol gywir, sy'n poeni llawer gormod am dramgwyddo hwn a'r llall heddiw.

Mae hynny'n gwneud drwg mawr i ddemocratiaeth gan fod pynciau pwysig wedyn yn dueddol o gael eu hesgeuluso a'u hanwybyddu. Mae hynny yn ei dro yn storio problemau ar gyfer y dyfodol. Mae mater mewnfudo i Wledydd Prydain yn enghraifft perffaith o hynny. Er fod maint y mewnfudo a ganiataodd y Blaid Lafur o dan deyrnasiad Tony Blair yn broblemus iawn o'r cychwyn cyntaf, doedd dim modd cael trafodaeth ystyrlon ar y mater, oherwydd y dybiaeth y byddai hynny'n "hiliol" ac yn debyg o dramgwyddo pobl.  Gadawyd y peth i rygnu mlaen am flynyddoedd tan i'r peth gyrraedd ei benllanw yn y refferendwm llynedd, gyda theimladau bobl am fewnfudo yn cael eu mynegi am y tro cyntaf mewn gwirionedd. Ac er y cystwyo a fu ar y bobl hyn gan y dosbarth rhyddfrydol breintiedig, y gwir ydi na chafodd pryderon pobl am faint y mewnfudo ac effaith hynny ar eu cymunedau eu cymryd o ddifrif am flynyddoedd lawer. Oes ryfedd mewn gwirionedd iddynt ddefnyddio'r refferendwm fel cyfrwng i wneud hynny?

Gwelwyd y dyrchafu hwn ar deimladau ac emosiwn uwchlaw popeth hefyd ym mheth o'r ymateb a fu i ddewis Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ddiweddar.  Does dim dwywaith  fod Donald Trump yn ffigwr ymrannus iawn sydd fel petai wrth ei fodd yn  herio pobl a sefydliadau gwahanol yn barhaus.  Ond mae peth o'r gwrthwynebiad sydd wedi ei fynegi tuag ato mewn gwrthdystiadau yn America ac yma yng Ngwledydd Prydain yn gwbl chwerthinllyd. Dyna ichi'r ferch a gafodd ei holi gan ohebydd ITV pam ei bod hi ar brotest yn Llundain: "I'm here because of Donald Trump's policies against women" meddai'r hulpan wirion yn llawn digofaint hunangyfiawn. Dwi'n dal i grafu mhen i geisio meddwl pa bolisiau "gwrth-ferched" y mae o wedi eu cyflwyno hyd yma.....

Ond dyna ni, roedd teimladau ac emosiwn y ferch arbennig hon wedi cael eu tramgwyddo gan Trump ac felly roedd hynny'n sail ar gyfer gwneud ei datganiad carlamus a di-feddwl.

Ac mae'r diwylliant tramgwyddo hefyd yn gallu profi'n rwystr go iawn mewn cyd-destunau cwbl gyffredin hefyd gwaetha'r modd. Yn ddiweddar,  roedd plant ysgol o'r gogledd wedi mynd draw i ysbyty yn Lerpwl i ganu carolau i glaf o'u hardal hwy. Ond chawson nhw ddim canu carolau ar y ward wedi mynd yr holl ffordd yno- a hynny oherwydd yr ofn y byddai hynny yn tramgwyddo nyrs oedd yn digwydd bod yn Foslem.... canu carolau yn peri tramgwydd(!)- mewn difrif calon, pa synnwyr sydd mewn peth felly?

Y drafferth hefo'r meddylfryd tramgwyddo hwn ydi ei fod yn amhosib  ei fesur mewn unrhyw ffordd gall a rhesymol, gan ei fod yn rywbeth mor oddrychol yn ei hanfod. Wedi'r cwbl, mae'r hyn all beri tramgwydd i un person yn gwbl dderbyniol i berson arall ac fel arall, felly mae'r holl beth yn un gybolfa ddryslyd. 

Gan fod gennym gyfreithiau yn eu lle yn barod ar gyfer amddiffyn unigolion rhag ymosodiadau geiriol sydd yn mynd yn rhy bell, fe ddylai hynny fod yn ddigon i ganiatau mynegiant barn rhydd ac agored mewn pob amgylchiad yn fy marn i.

Y gwir ydi na ddylen ni gael ein gwarchod rhag cael ein tramgwyddo gan sylwadau pobl eraill. Yn wir fe ddylem groesawu hynny o dro i dro. Mae'n bwysig teimlo ein bod yn cael ein tramgwyddo gan sylwadau a phethau sy'n digwydd o'n cwmpas gan fod hynny'n fodd i'n procio ni, ein hysgwyd ni, a'n tanio ni, a'n gwneud ni'n ddinasyddion mwy effro ac ymatebol.

Yn sicr, ni ddylen ni adael i bobl ddefnyddio'r diwylliant tramgwyddo er mwyn gwrthod gwrando ar farn sydd yn groes i'w barn nhw eu hunain, na gadael iddynt ddylanwadu ar gyrff ac awdurdodau yn y gofod cyhoeddus er mwyn ceisio rhwystro mynegiant barn. Canlyniad hynny fyddai porthi mwy o agwedddau unllygediog ar y naill law, a chreu mwy o rwystredigaeth ar y llaw arall, sydd ddim yn gymysgfa iach o gwbl.

Dwi'n mawr obeithio y gallwn ddatblygu democratiaeth Gymreig dros y blynyddoedd nesa, a honno'n ddemocratiaeth a fydd yn cynnwys y parodrwydd i fod yn agored i farn o bob math.

Fel y dywedodd yr anarchydd Rosa Luxemburg un tro: "True freedom always has to mean freedom for those who think differently."

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

"Full Tory Breakfast"- ond a yw Theresa May'n hwylio ei chinio a'i swper hefyd?

WEDI digwyddiadau'r wythnos hon yn Nhy'r Cyffredin, mae'n amlwg mai'r fwydlen Ewropeaidd sydd i'w weini bellach yw'r "Full Tory Breakfast", yng ngeiriau anfarwol Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. "Full Tory Brexit" oedd y ffermwr llond ei groen o Fro Morgannwg yn geisio'i ddweud wrth gwrs, ond rhywsut mae'r syniad o'r Toriaid yn gwledda ar eu rhagfarnau eu hunain heb wneud lle i neb arall wrth y bwrdd bwyd yn ddarlun nad oes modd gwella arno.

Roedd cynrychiolwyr o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyflwyno gwelliant i'r mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn ceisio sicrhau y byddai buddiannau'r gwledydd hyn hefyd yn cael eu hystyried wrth  gychwyn y broses. Ond ychydig iawn o amser a gawson nhw i gyflwyno'u hachos gan fod sawl Tori wedi ymyrryd yn y ddadl a malu awyr yn ddi-baid er mwyn gwastraffu amser ( "fillibuster" yw'r term swyddogol am ymddygiad fel hyn). Roedd y cwbl yn dangos i'r byd a'i nain mai celwydd llwyr yw unrhyw syniad am yr "Union of Equals" y mae arweinwyr unoliaethol mor hoff o'i frolio wrth son am y gwledydd hyn. Y gwir amdani ydi mai Lloegr yw cychwyn, canol a diwedd yr Undeb bondigrybwyll hwn, ac mai "ychydig o niwsans i'r rhai sy'n coelio mewn trefn" a dyfynnu un o'n beirdd enwocaf, yw ei chymdogion, ac mae hynny'n bod yn garedig iawn wrth ddisgrifio agweddau'r brawd mawr tuag at weddill y teulu ar Ynysoedd Prydain.

Beth bynnag a ddaw o Brexit yn y pendraw, mae'r broses wedi dangos mewn modd digamsyniol mai'r synnwyr o neilltuedd( exceptionalism) Lloegr sydd yn gyrru gwleidyddiaeth Prydain yn ei hanfod. Mae'r seico-ddrama Seisnig sydd wedi digwydd o'n blaenau ers pleidlais y Refferendwm yr haf y llynedd yn tystio'n groyw iawn i hynny.  Ond er mai yn y presennol mae hyn oll yn digwydd, does dim dianc rhag y gorffennol a chysgod yr Ymerodraeth Brydeinig dros y cwbl. Y gwir ydi, dydi Lloegr byth wedi dod i delerau a cholli ei hymerodraeth fyd-eang, heb son am ddechrau gwneud yn iawn am holl anfadwaith ac erchyllterau'r ymerodraeth honno mewn cymaint o wledydd gwahanol ar draws ein byd. Pan mae Theresa May a'i thebyg yn son am y "Global Britain" newydd, yr hyn sydd gennyn nhw mewn golwg go iawn yw a "Globe for Britain", h.y maen nhw dal i feddwl yn nhermau ymerodraethol yn eu perthynas gyda gweddill y byd. Yn hwyr neu'n hwyrach wrth gwrs, bydd rhaid i Loegr dderbyn mai gwladwriaeth ganolig ei maint, gweddol ddi-nod yw hi bellach ar lwyfan y byd- ond cyn i hynny ddigwydd, bydd rhaid i bawb ohonom ddioddef yr holl ganlyniadau a ddaw yn sgil eu "Full Tory Breakfast" a dyfynnu'r ffermwr gwritgoch o'r Fro unwaith eto.

 Ond eto, y joc ydi mai brecwast digon ansylweddol y mae'r senedd yn Llundain wedi pleidleisio drosto yr wythnos hon mewn gwirionedd. Er yr holl fisoedd sydd wedi mynd heibio ers y refferendwm, does neb callach beth yn union yw ystyr Brexit hyd heddiw, a beth yn  y bon y bydd Llywodraeth Theresa May yn geisio ei  sicrhau wrth negydu gyda'r Undeb Ewropeaidd dros y cyfnod nesaf. Byddai gwrth-blaid gref ac unol wedi gallu tynnu hyn oll yn gria a mynnu gwelliannau sylweddol i'r mesur gadael ond gyda'r Blaid Lafur wedi ei rhwygo'n ddwy os nad tair rhan bellach a Jeremy Corbyn druan yn prysur suddo o dan y don- mae'r dyfodol yn edrych yn gynyddol las, ac yn las tywyll iawn hefyd o feddwl am y math o syniadau sydd gan y Ceidwadwyr am "Brydain a'i thraed yn rhydd",

Mae si o gwmpas San Steffan yr wythnos hon fod y Santes Theresa yn ystyried galw etholiad buan er  gwaetha'r ffaith y byddai hynny'n golygu galw pleidlais o ddiffyg hyder yn ei llywodraeth ei hun. Ond mae modd cael Wil i'w wely o ran y bleidlais seneddol mae'n debyg. A'r son ydi fod Theresa May eisoes wedi cael llun ohoni ei hun hefo pob ymgeisydd Ceidwadol ar daflenni pwrpasol yn barod am y posibilrwydd hwn.Mae rhai o'i chwipiaid mwyaf dylanwadol yn pwyso arni i wneud y mwyaf o'r sefyllfa fanteisiol bresennol, a hithau wedi cael y senedd i blygu i'w hewyllys mor rwydd yr wythnos hon. Go brin y bydd hi fyth mewn sefyllfa mor gryf eto o gofio'r llanw a thrai gwleidyddol y mae rhaid i bob arweinydd ddygymod ag ef yn ystod eu cyfnod wrth y llyw .  Gallai etholiad buan gyflawni tri nod strategol pe byddai'r Prif Weinidog yn barod i fentro ar y trywydd hwnnw. Yn gyntaf, byddai'n cryfhau ei llaw yn ddirfawr wrth ddechrau'r broses negydu gyda Brwsel yn niwedd Mawrth( mae'n bur debyg y byddai ganddi dros 100 o fwyafrif yn y senedd yn ol y rhagolygon diweddaraf- sefyllfa tipyn haws na'r mwyafrif o 12 sydd ganddi ar hyn o bryd). Yn ail, byddai'n fodd i gladdu'r Blaid Lafur fel grym gwleidyddol am flynyddoedd os nad yn derfynol, o gofio am drafferthion enbyd y blaid honno ac amhoblogrwydd diarhebol ei harweinydd anffodus, Jeremy Corbyn. Yn drydydd, a dyma lle y byddai natur gynllwyngar a dichellgar merch y ficer yn dod i'w oed o bosib- gallai hynny o bosib roi caead ar bisar Nichola Sturgeon ac unrhyw syniad o alw ail-refferendwm i'r Alban yng nghynhadledd yr SNP fis nesaf. Byddai'r holl firi a chynnwrf etholiad cyffredinol prydeinig gyda'r wasg Brydeinig yn glafoerio wrth ei weld fel cam cyntaf y "rhyfel" yn erbyn Yr Undeb Ewropeaidd yn debyg o wanychu achos SNP yn ddirfawr, hyd yn oed a chymryd  y byddai tueddiadau mwy pro-Ewropeaidd yr Albanwyr yn elfen yn yr etholiad. 

Byddai'n fodd i Theresa May a'r Ceidwadwyr danseilio sefyllfa  Brwsel a'r Alban ar yr un gwynt. Ond mae'n gofyn am fesur o ddewrder gwleidyddol sydd yn aml iawn y tu hwnt i'n harweinwyr. Cofier hanes Gordon Brown a'i benderfyniad i beidio galw etholiad yn fuan wedi ei ethol yn arweinydd Llafur yn 2007 er y byddai hynny mae'n debyg wedi arwain at fuddugoliaeth rwydd iddo dros y Ceidwadwyr.

Os na wnaiff Theresa May fanteisio ar ei brecwast llawn presennol, y peryg iddi ydi y caiff hi a'i llywodraeth ei dal mewn math o "pincer movement" gyda Brwsel a'r Alban a hyd yn oed Gogledd Iwerddon yn uno mewn math o glymblaid anffurfiol i'w gwrthwynebu a'u tanseilio pob gafael dros y ddwy flynedd nesaf.A phwy a wyr, efallai y byddai Cymru hefyd am ymuno yn y glymblaid hon pe bai'n mynd yn sgrech arnom.

A fydd Maggie May yn dangos gwytnwch di-gyfaddawd ei harwres? A fydd hi'n dangos y "Carpe Diem" hwnnw sy'n nodweddu arweinwyr mawr pob oes? Yntau a fydd merch y mans yn petruso ac yn chwarae'n saff? Wedi'r cwbl, chwarae gem reit ofalus y mae hi wedi'i wneud trwy gydol y broses o ddringo trwy'r rhengoedd Ceidwadol.  A chadw ei phen i lawr wnaeth hi yn ystod y refferendwm ei hun er mai o blaid aros oedd hi yn swyddogol. Mae May yn gyfrwys fel sarff yn ol y rhai sy'n ei hadnabod yn dda, ac fe roedd y modd y cipiodd hi'r goron wrth i ffigyrau amlwg Brexit fel Gove a Johnson syrthio'n brin, yn dangos hynny i'r dim.

Tybed ai disgwyl y mae hi i weld sut fydd Ty'r Arglwyddi yn ymateb i fesur Brexit?. Pe bai'r Arglwyddi yn ceiso rhwystro'r mesur mewn unrhyw ffordd, mae'n bosib mai dyna fydd yr esgus perffaith iddi i apelio "i'r wlad" uwchben penderfyniad corff anetholedig sydd yn ddigon amhoblogaidd ymhlith y cyhoedd fel mae pethau.  Neu efallai y daw cyfle yn sgil y ddau is-etholiad sydd i'w cynnal ar Chwefror 23 yn Copeland a Stoke on Trent.  Mae rhai'n dyfalu y bydd Llafur yn colli'r naill a'r llall. Pe bai hynny'n digwydd, siawns y bydd y temptasiwn i fynd amani yn ormod i'r ymerodres newydd?